Beth yw Ysbryd Efengylaidd

Beth уw Ysbryd Efengyiaidd? 

WRTH ysbryd efengyiaidd yr wyf yn meddwl, yr agwedd hono a weithredir gan yr Ysbryd Glan trwy yr efengyl ar eneidiau pawb sydd yn gwir gredu yr efengyl, ас у mae yn allu Duw er iachawdwriaeth iddynt. Gan у gweithredir ef trwy yr efengyl, у mae yn cyfranogi o natur yr efengyl, ас yn tebygu dyn iddi.  Ond у mae llawer o dwyll yn у byd, ас у mae dynion yn ami yn cam-gymeryd у naill beth yn lie у llall, er mawr niwed iddynt; a thrwy gam-enwi pethau, tynir llawer о waradwydd a dirmyg ar у pethau mwyaf rhagorol, trwy roddi yr enwau perthynol iddynt ar sothach, cwbl annhebyg iddynt. Gwedi hysbysu fy meddwi o'r blaen yn dra helaeth am natur deddfoldeb,1 ymgeisiaf yma i egluraw ychydig ar natur ysbryd yr efengyl, gan obeithio у bydd yn gynnorthwyol i'r darllenwyr i holi eu hunain, ас i farnu o ba ysbryd y maent, ас wrth hyny i farnu yn uniawn am eu cyflyrau, yr hyn sydd o'r pwys mwyaf.

Yn nacäol, 

1. Nid ysbryd yr efengyl sydd yn tueddu dynion i edrych yn ddiystyrllyd ac yn anmharchus ar gyfraith sanctaidd Duw. Os yw cyfraith Duw, fel ei hawdwr, yn sanctaidd, yn gyfiawn, ac yn dda, rhaid bod yr efengyl yn ansanctaidd, yn anghyfiawn, ac yn ddrwg, pe cenedlai yn neb ddiystyrwch o'r gyfraith. Ni buasai anghen am yr efengyl i genedlu у суfryw ysbryd; у mae plant dynion dan у cwymp yn llawn o hono eisoes. Nid oes dim a ddangosodd nac a ddengys byth mwy parch i'r gyfraith nag yr efengyl.

2. Nid ysbryd yr efengyl sydd yn edrych yn fach ar bechod, y trosedd o'r gyfraith sanctaidd. Nid oes dim yn amlygu drwg pechod, a'r pechadurusrwydd o hono, yn fwy nag yr efengyl. 

3. Nid ysbryd yr efengyl yw bod yn ddiystyr am gydffurfiad â'r gyfraith mewn agwedd meddwl, geiriau, ac ymarweddiad. Yn yr agwedd hou mae yr efengyl yn cael pawb, ond nid felly y mae yn gadael neb sydd yn ei gwir gredu. 

4. Nid ysbryd yr efengyl sydd am roddi liai i'r gyfraith nag y mae yn ei ofyn, fel pe buasai yn gofyn gormod gan ddyn. Os yw yn gofyn gormod neu rhy fach, y mae yn gyfraith anghyfiawn; ac nid yw yr anghydffurfiad â hi yn bechod. Ond y mae yn wrthddywediad haeru i Dduw perffaith gyfiawn roddi cyfraith anghyfiawn. Ni ddichon ond cyflawnder ddyfod oddiwrth FOD perffaith gyfiawn: golygu y gyfraith yn gofyn gormod oddiwrth ddyn, sydd gamolygiad cyfeiliornus ar Dduw a'i gyfraith.—Yn y gwrthwyneb, y mae ysbryd yr efengyl, 

1. Yn golygu y gyfraith, fel y mae yn wirioneddol ynddi ei hun, " yn sanctaidd, yn gyfiawn, ac yn dda." Trwy yr efengyl mae goleuni cywir yn tywynu ar y meddwl; ac yn y golueni hwnw mae pob gwrthddrych yn ymddangos gyda chywirdeb, fel y gosodir ef alian gan Dduw ei hun yn y gair sanctaidd. Os yw Ysbryd Duw yn goleuaw y meddwl, ni ddichon Ysbryd y Gwirionedd amlygu un gwrthddrych i'r meddwl ond gyda chywirdeb, fel ag y mae yn wirioneddol. Tystiolaetha fod y gyfraith yn sanctaidd, yn gyfiawn, ac yn dda; yn ganlynol, felly y mae yn cael ei dadguddiaw i'r meddwl. 

2. Mae ysbryd yr efengyl yn galaru am y troseddiad o'r gyfraith, a phob anghydffurfiad â rheol mor uniawn a gogoneddus. Nis dichon edrych yn ddiystyr ar yr hyn sydd yn dianrbydeddu Duw mor fawr. 

3. Mae ysbryd yr efengyl am roddi yn gyfiawn у boddlonrwydd hwnw i'r gyfraith ag у mae yn gyfiawn yn ei ofyn. Nid ydyw yn gallel barnu ei bod yn gofyn gormod. Caru Duw â'n holl galon, yr hyn mae yn ei ofyn, a allasem ni fel creaduriaid ei roddi, ac y mae Duw yn deilwng o hono, ac anfeidrol fwy. Nid oes neb a ddichon garu Duw i'r graddau y mae yu haeddu, ond Duw ei hun; ond nid yw yn ofynedig oddiwrth ddyn nас angel ond yr hyn oedd gallu ac addasrwydd naturiol ganddynt fel creaduriaid i ei roddi уn gyflawn; ac nid yw у gyfraith yn gofyn oddiwrth ddyn ond yr hyn oedd yn hawdd iddo fel creadur ei roddi, ac oedd yn gwbl ddyledus oddi wrtho. A hyn mae ysbryd yr efengyl yu cydunaw, ac mae mewn hollol gymmod â'i gofynion gogoneddus. Pe buasai y gyfraith yn gofyn dyn i garu y byd â'i holi galon, buasai yn gofyn gormod—nid yw y byd yn deilwng o'r fath gariad. Pe buasai yn gofyn i ni garu ein hunain, neu garu ein cymmydog, neu un gwrthddrych arall heblaw Duw, â'n holi galon, buasai yn gofyn gormod; canys nid oes un gwrthddrych ond y Duw mawr yn haeddu i ni ei garu â'n holl galon, â’n holl feddwl, ac â'n holl nerth. Ond caru Duw felly, sydd gwbl addas, sydd gyfiawn, ас yn llawn o ddedwyddwch tragywyddol! 

4. Am fod Crist, trwy ufuddâu a dyoddef dros bechaduriaid, wedi rhoddi i'r gyfraith yr hyn oedd yn gyfiawn yn ei ofyn, y mae yn wrthddrych anfeidrol hawddgar a gwerthfawr gan bawb sydd yn meddiannu ysbryd yr efengyl; canys felly mae yr efengyl yn ei osod ef allan. Mae trefn fawr у cymmod yn Nghrist yn ymddangos yn drefn dra rhyfedd, trwy yr hon mae y pechadur yn cael ei achub—pechod yn cael ei faddeu—a'r gyfraith yn cael ei mawrâu a'i gwneuthur yn anrhydeddus. Mae Duw yn ogoneddus—y gyfraith yn ogoneddus— a Christ yn dra gogoneddus, yr hwn a'i boddlonodd ac a'i anrhydeddodd; ond y pechadur ei hun yn wael ас yn ffiaidd yn ei olwg ei hun, a phechod yn beth ffieiddiaf. 

5. Mae ysbryd yr efengyl yn dysgwyl am gymmod â Duw yn unig trwy Grisl, a'r iawn a wnaeth. Nid yw yn canfod un ffordd arall yn agored, nас yn addas: nis dichon Duw cyfiawn gymmodi mewn ffordd anghyfiawn, mwy nag у dichon gospi yn anghyfiawn; ac nid oes un ffordd gyfiawn yn ymddangos ond hon. Gan hyny mae yn darfod dysgwyl am gymmod byth ond yn Nghrist yn unig. 

6. Mae yn gwneuthur cyflawn ddeibyniad o gyfiawnder Crist, fel у gosodir ef alian yn yr efengyl, ас yn gorphwys arno ef yn unig am ei gyfiawnâad ger bron Duw. Nid oes un athrawiaeth yn deilwng o'r enw efengyl, nad yw yn dadguddiaw ас yn cyhoeddi у cyfiawnder hwn; ас nid oes dim yn deilwng o'r enw ffydd, nad yw yn credu ynddo ef yn unig, ac yn gwneuthur derbyniad cyflawn o hono. Cyfnewidiad tra mawr ar feddwl dyn yw hwn; sef ei ddwyn i edrych allan o hono ei hun yn gwbl am ei gymmeradwyaeth: ond i hyny mae yr efengyl yn galw pechaduriaid; ac ysbryd yr efengyl yw yr ysbryd o ufudd-dod iddi yn flaenaf ac yn benaf yn hyn. (Esa. 45. 24.) a gelwir ef ufudd-dod ffydd—ac ufuddâu o'r galon i'r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd o'r nefoedd i ddynion. (Rhuf. 6. 17.) 

7. Fel y mae yn canfod y gyfraith yn brydferth ac yn ogoneddus, felly hefyd mae yn gweled gwerth a harddwch mawr mewn sancteiddrwydd, ac yn dra hiraethlawn am dano. Mae yr efengyl yn berffaith sanctaidd yn ei natur a'i dyben; ac ni ddichon fod neb yn ei gwir gredu, heb gyfranogi o'r un ysbryd.  Yr un peth yw caru yr efengyl a charu sancteiddrwydd; canys efengyl sanctaidd ydyw; a thrwyddi hi mae pechaduriaid yn cael eu sancteiddiaw. Caru pechod a charu yr efengyl hefyd, sydd wrthddywediad; canys dinystr pechod yw yr efengyl: mae pawb gan hyny sydd yn meddiannu ysbryd efengyiaidd, " yn newynu ac yn sychedu am gyfiawnder." 

8. Gan fod Crist wedi ei wneuthur i ni gan Dduw yn sancteiddrwydd, y mae ysbryd efengylaidd yn myned at ef yn unig am dano, fel am gyfiawnder. Doethineb oddi uchod yw hwn, sydd yn dysgu dynion yn ddoeth i iechydwriaeth, yn eu tywys at ffynon, sef gwaed lesu, i eu glanâu, ас at feddyg i eu meddyginiaethu. Mae mor anobeithiol o fod yn lân mwy nа bod yn gyfiawn heb Grist. Efe yw y Ffynon i bechod ac aflendid; ac nid oes dim arall yn cael ei enwi felly gan Dduw yn y nefoedd na'r ddaear. Peth ofer yw dysgwyl bod yn lân heb fyned i'r ffynon; felly peth ofer a siomedig yw dysgwyl bod yn sanctaidd heb gredu yn Nghrist, ас undeb âg ef. Nid oes un gangen yn dwyn ffrwyth heb fod yn Nghrist; ac y rhai sydd yn dwyn ffrwyth ynddo, y mae y Tad nefol yn eu glanâu, fel y dygont fwy о ffrwyth. (loan 15. 2, &c.) Mae ysbryd efengyiaidd, gydâ llawenydd, yn tynu dyfroedd sancteiddrwydd a ffrwythlonrwydd ysbrydol o ffynonau yr iechydwriaeth; ас yn profi fod "gwaed Iesu Grist ei Fab ef yn glanâu oddiwrth bob pechod." 

9. Gan fod nerth yn Nghrist i'w gael (Esa. 45. 24.) mae ysbryd efengylaidd yn egnïol, yn wrol, ac yn ddiddarfod yn ei ymdrechiadau yn erbyn pechod. Y mае " yn chwennych yn erbyn у cnawd;" sef yn gweithredu o anian groes i'w erbyn yn wirfoddol, ac o anghenrheidrwydd ansawdd аnіаn. Nid yw ysbryd deddfol, fel у gelwir ef, ond hannerog, egwan, digalon, ac oriog, ar y goreu; ond mae ysbryd efengyiaidd yn canfod digon o'i blaid yn erbyn у gelyn, ac yn cael profiad aml o wirionedd gair Crist, "Digon i ti fy ngras i;" am hyny mae yn mhob ffordd am gael pechod allan yn llwyr—ei farweiddiaw—ei groeshoeliaw—yn rhyfela yn ei erbyn—ac yn ei ffieiddiaw o anian yn barâus. Nid ysbryd yr efengyl sydd yn cydfod yn heddychol gyda phechod, ond ysbryd cwbl groes iddi, ag sydd yn nodi y sawl sydd felly yn byw heb erioed etto gwir gredu yr efengyl. Nid oes dim llai a foddlona ysbryd efengyiaidd nâ pherffaith gydffurfiad â'r gyfraith, sef cwbl waredigaeth oddiwrth bechod. 

10. Gan nad yw y bendithion hyn i'w cael ond yn Nghrist, nаc yn gwbl nас mewn rhan, y mae "Crist yn bob peth ас yn mhob peth." Mae ei gyfiawnder yn cyfateb yn dra addas a digonol gyferbyn â'n holl anghenion ni: am hyny y mae o werth anghymharol gan y sawl sydd yn feddiannol o ysbryd yr efengyl. Nis gallant feddwl am fyw na llwyddo mewn dim hebddo. Y maent yn derbyn o hono yr hyn y tystiolaetha yr Ysgrythyrau fod ynddo, sef bywyd tragwyddol, a phob peth perthynol i addasu i hyny. Geill ereill fyw hebddo, о ran dim defnydd a wnant o hono; gallant ar achlysuron ei wadu, neu o'r hyn leiaf ei daflu o'r neilldu; ond nid felly y mae gyda y rhai sydd yn meddiannu ysbryd efengyiaidd: ond eu bywyd, eu суsur, a'n cwbl yw. 

11. Heblaw hyny, nid yn unig y maent yn canfod eu hanghen am Grist, a chyflawnder ynddo tra dymunol a chyfatebol i eu heisiau, ond maent yn gweled anfeidrol ardderchogrwydd a dymunoldeb ynddo; y mae oll yn hawddgar—yn rhagori ar ddeng mil. Mae yr Ysbryd Glan yn gogoneddu Crist; nid yn chwanegu at ei ogoniant yw meddwl y geiriau—hyny sydd anmhossibl; ond yn ei amlygu yn ogoneddus i feddwl y pechadur; yn ei nerthu i edrych ar ei ogoniant yn nrych yr efengyl, ac i ymogoneddu ynddo. Yn yr olwg hon arno, mae yr enaid yn ei wir ddewis, yn ymhoffi ynddo, yn ymhyfrydu ac yn ymlawenychu ynddo gyda yr anwyldeb mwyaf, a phob peth arall yn dom ac yn golled yn ei olwg. Mae ysbryd yr efengyl yn canfod hawddgarwch a godidogrwydd yn ei berson, rhyfeddodau aneirif yn ei gariad, a'i waith, a thrysorau anchwiliadwy o ras ynddo, fel y mae yn ennill y serch i'w hoffi, ac i lynu wrtho yn ddiymmod ac yn ddiwahan. Dysgwyl y mae nefoedd dragywyddol trwy edrycch ar ei wedd, ac yn mwynâu ei gymdeithas; ac mae yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. 

12. Mae ysbryd efengyiaidd yn llawn hunan-ymwadiad, ac yn llafurus-weithgar dros Grist a'i achos yn y byd. Mae achos Crist y pwysfawrocaf, ei enw yn anrhydeddus, a'i bobl yn anwyl ganddo. Fel pren wedi ei blanu wrth y dyfroedd, dug ffrwyth yn ei bryd, tra byddo ereill yn gwywaw ac yn diffrwythaw. Llafur cariad yw ei waith; am hyny mae yn siriol, yn fywiog, yn ddyfal, ac yn helaeth yn wastadol wrtho. Cenfydd achlysuron i weithiaw, ac nid esgeulusa hwynt. Gwel achlysur i roddi phiolaid o ddwfr oer i ddysgybl—tamaid i'w borthi—dilledyn i roddi am dano—neu i wneuthur ryw amgeledd iddo mewn amgylchiadau cyfyng. Ceiff achos yr efengyl, yn benaf о bob peth, yr amgeledd a allo ei roddi, yn ewyllysgar ganddo; a rhydd yn haelionus o'i brinder a'i dlodi tuag at ei gynnaliaeth yn y byd gelyniaethol hwn. 

13. Мае ysbryd efengyiaidd yn foneddigaidd ac yn hawdd ei drin. Nid hawdd ganddo ddigio, tramgwyddo, a chwerwi; ond mae yn fwyn, yn amyneddgar, yn dirion, yn gymmwynasgar, ac yn dangos pob addfwynder tuag at bob dyn. Yn groes i hyn yw deddfoldeb; mae yn bleidgar, yn bigog, уn waedwyllt, yn falch, yn sarug, ас уn anfwyn; ei fwyneidd-dra sydd gnawdol ас nid yn rasol, pan yr ymddangoso felly. Tywyllwch yw у naill, a goleuni yw y llall—ffrwyth y cnawd yw у naill, a ffrwyth yr Ysbryd yw y llall—у mae у diweddaf oddi isod, ond у cyntaf oddi uchod. Y mae graddau mewn efengylrwydd ysbryd, ond yr un natur yw yn mhob gradd o hono. Y mae gwrth-weithrediad cryf oddiwrth anian lygredig iddo yn y goreu, etto deddf y meddwl yw, y mae ar ei orsedd ac yn llywodraethu yn y galon, a chyfnewid yr holl enaid i'w ansawdd ei hun—" sura y cwbl"—a bydd agwedd ryfedd o hawddgar, tirion, a gogoneddus ar yr holl saint wedi eu llenwi âg ysbryd yr efengyl; sef yn debyg i eu Harglwydd, ас yn gyflawn ar ei ddelw. 

ADELPHOS. 


1 Gwel Llyfr I. Tu dalen 326