RHAGYMADRODD
 
I’R ARGRAFFIAD CYNTAF

 
AT FY NGHYD-WLADWYR Y CYMRY, –
 

  Yr esgeulusdra mawr a welaf o egwyddori plant, ymhlith pawb o bob enw, a’m cymhellodd i argraffu’r Crynodeb bychan hwn o Egwyddorion Crefydd; gan obeithio y gall fod yn gynhorthwy, yn ogystal ag yn anogaeth i rieni ac eraill i hyfforddi plant a phobl ieuainc, yn egwyddorion iachusol y gair, gwir adnabyddiaeth o ba rai yn unig a ddichon gadw’n fyw eu heneidiau.  Y mae’n drueni athrist gweled creaduriaid o berchen eneidiau anfarwol, yn cael eu magu a’u meithrin mewn hollol anwybodaeth o’r pethau a berthyn i’w tragwyddol heddwch!  Oni thrysorwn ni eu meddyliau â gwerthfawr drysorau Duw, fe’u lleinw’r byd a’r diafol hwy â’r trysorau melltigedig a gloddir o uffern.  Os byddwn ni segur a diofal, nid yw’r diafol felly, ond yn ddiflino yn myned oddi amgylch, gan geisio y neb a allo ei lyncu.  Ac os ydym ni yn cysgu, nid yw barn Duw yn cysgu, ond a’n goddiwes yn ofnadwy, gyda dwbl felltith am ein llofruddiad o’r eneidiau a orchmynodd Duw i’n gofal.  Y Duw hwnnw, yr Hwn sydd yn caru iechydwriaeth eneidiau trueiniaid, a’n dihuno o’n cwsg, rhag ofn i waed ein plant weiddi yn groch yn ein herbyn o flaen y Barnwr cyfiawn!  Pa ynfydrwydd yw gofalu am gyrff, ac esgeuluso eneidiau ein plant!  Llafurio’n galed ddydd a nos am ychydig o’r byd darfodedig hwn iddynt, a gadael eu heneidiau yn ddiymdrech i’w hachub, i fyned gan gythreuliaid byth!  Os felly y mae, ac y parha, ein hymddygiad tuag atynt, pa ryfedd os chwerwder a gofid a fyddant i ni yma, ac os byddant yn dystion yn ein herbyn yn y farn!  Anhawdd gennyf gredu bod enaid y dyn hwnnw mewn cyflwr diogel, a fydd yn ddifater am eneidiau eraill.  Yr hwn a welodd werth ei enaid ei hun a welodd werth eneidiau pawb ar yr un olwg; ac ni all lai na gwneuthur a allo tuag at eu hachub.  Digon gwir na feddwn ras i’w gyfrannu i’n plant; y mae’r trysor gwerthfawr hwnnw mewn gwell llaw, ond mae’r moddion gennym a fendithiodd Duw i gyfrannu gras i filoedd: yn yr esgeulusdra o’r rhain ni byddwn dieuog gerbron Duw; ac yn yr ymarferiad difrifol ohonynt, gallwn yn hyderus ddisgwyl am fendith i ni a’n plant.

  Y mae’r rhwymau a’r anogaethau i gateceisio ac egwyddori plant yn fawr: y mae gorchymyn Duw yn rhwymo hyn arnom fel dyletswydd, “Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd: a phan heneiddio nid ymedy â hi.” Diar. 22:6.  Hyfforddia ef ym mhen y ffordd y mae iddo ef, fel pechadur, gael bywyd i’w enaid; sef yn yr adnabyddiaeth o Grist, yr Hwn yw’r unig ffordd i bechadur gael dyfodfa at y Tad: a hyfforddia ef yn y ffordd y mae iddo fel credadun rodio ynddi er gogoniant i Dduw, a chysur iddo ei hun, sef wrth reolau gair Duw.

  Y mae esiamplau’r duwiolion hefyd ym mhob oes o Abraham hyd yn awr, yn ein galw at y gorchwyl hwn; ac y mae’r fendith a gafodd miloedd trwyddo yn ein hannog gyda phob diwydrwydd i ymarfer ag ef.  Gyda diball ddiwydrwydd a mawr lwyddiant, y llwyddodd y duwiol a’r Parchedig Mr. Griffith Jones, ymhlith y Cymry yn y gwaith hwn.  Fel y mae ei ddiwydrwydd yn condemnio ein hesgeulusdra, felly ei fawr lwyddiant fydd anogaeth gref i ni ymaflyd yn wrol yn yr un gorchwyl.  Da gennyf weled yr arwyddion lleiaf fod yr Arglwydd yn gwasgu’r mater hwn ar feddyliau rhai yn ein plith.  Hyderus obeithio a disgwyl yr wyf yr ymdaena’r ysbryd sydd eisoes yn meddiannu rhai, tros y wlad yn gyffredinol: argoel dda, yn gystal â moddion, i’m tyb i, fyddai hyn, o barhâd a chynnydd crefydd a duwioldeb yn ein plith.

  Dau beth oedd gennyf, yn bennaf, yn fy ngolwg wrth ysgrifennu’r Crynodeb bychan a ganlyn: Yn gyntaf, cadw allan bob peth disylwedd, a phethau amgylchiadol crefydd, a’r nad ydynt yn anhepgorol angenrheidiol er iechydwriaeth i’w gwybod.

  Ac yn ail, ei wneuthur mor fyr, eglur, a chynhwysfawr ag y medrwn. Hawdd gennyf gredu na chyrhaeddais berffeithrwydd yn un o’r ddau; ond mi a wnes fy ngorau, ac a ddysgais hyn hefyd wrth ei sgrifennu, sef, mai buddiol iawn yw manwl chwilio ac ystyried athrawiaethau’r Efengyl yn ei hegwyddorion gwreiddiol, eu cysylltiad â’i gilydd, a’u priodol effeithiau ar eneidiau y rhai sy’n eu gwir gredu.  Cymerais yn hy amryw Gwestiynau ac Atebion allan o Esboniad rhagorol Mr. G. Jones.  Ychwanegais Gatecism byrrach yn y diwedd, yn cynnwys Cwestiynau addas i’w gofyn i blant bychain cyn y medront ddarllen; a fydd yn arwain eu Meddyliau yn raddol, mewn ffordd fwy cyffredinol, i’r athrawiaethau a drinir ac a eglurir mewn modd mwy neilltuol a helaeth yn y Catecism mwyaf.

  Gwelwch i mi amcanu gwneuthur y llyfryn hwn mor fuddiol ag y medrwn ac mi allaf yn hy dystiolaethu, nad oes gennyf un amcan arall yn ei argraffu, yn fy ngolwg, ond lles a budd eneidiau anfarwol.  

  Dymunaf ar i Dduw pob gras lwyddo fy amcan yn hyn, er helaethu gwir wybodaeth a thragwyddol fendithio’ch eneidiau.  Yr ydwyf mewn cariad,

Eich annheilwng was tros Grist,
           T. CHARLES
Bala, Ion. 28, 1789.
 
 

PENNOD 1
AM DDUW

 
1. Pwy a’ch gwnaeth chwi?
Duw: “Efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain; ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.”   Salm 100:3; Gen. 1:26, 27; Act. 4:24.
 
2. Beth yw Duw?
“Ysbryd yw Duw.”   Ioan 4:24.
 
3. A oes mwy nag un Duw?
Un Duw sydd: “Clyw, O Israel, yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd.”   Deut. 6:4; 1 Tim. 2:5; 1 Cor. 8:4, 6.
 
4.  A oes mwy nag un Person yn y Duwdod?
“Y mae tri yn tystiolaethu yn y nef; sef, y Tad, a’r Gair, a’r Ysbryd Glân.”   1 Ioan 5:7; Mat. 28:19; 2 Cor. 13:13.
 
5.  A yw pob un o’r personau hyn yn wir Dduw?
Ydynt; ogyd-dragwyddol a gogyfuwch.
 
6. Onid dirgelwch mawr yw hwn?
Ie, dirgelwch mawr i’w gredu, ac nid i’w amgyffred: “Mawr yw dirgelwch duwioldeb.”   1 Tim. 3:16.
 
7. Beth yw’r gweithredoedd a gyfrifir iddynt yn fwyaf priodol?
Creadigaeth ac Etholedigaeth i’r Tad; Prynedigaeth ac Eiriolaeth i’r Mab; a Sancteiddiad i’r Ysbryd Glân: “Etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist.”   1 Pedr 1:2; 1 Cor. 13:6; Gal. 3:18; 2 Thes. 2:18.
 
8. A yw Duw’n hollalluog?
Ydy: “Canys gyda Duw pob peth sydd bosibl.”   Mat. 19:26; Gen. 17:1.
 
9. A yw Duw’n holl-wybodol?
Ydy: “Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad; deelli fy meddwl o bell.  Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.  Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll.”   Salm 139:2-4; Heb. 4:13.

10. A yw Duw’n holl-bresennol?
Ydy: “I ba le yr af oddi wrth dy Ysbryd?  Ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd?  Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.  Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr; yno hefyd y’m tywysai dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw.”   Salm 139:7-10.
 
11. A yw Duw’n dragwyddol?
Ydy; heb ddechreu na diwedd: “Ti hefyd wyt Dduw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.”   Salm 90:2; 1 Tim. 1:17.
 
12. A yw Duw’n anghyfnewidiol?
Ydy: “Gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod troedigaeth.”   Iago 1:17; Mat. 3:6.
 
13. A oes mawredd yn Nuw?
Oes: “Ei fawredd sydd anchwiliadwy.”   Salm 145:3.
 
14. A yw Duw’n ddoeth?
Ydy: “Y Duw unig ddoeth ydyw.”   Rhuf. 16:27; Jwdas 25; Rhuf. 11:33; Eff. 3:19.
 
15. A yw Duw’n drugarog?
Ydy: “Trugarog a graslawn yw yr Arglwydd.”   Salm 103:8 a 108:4 a 86:15; Exod. 34:6; 2 Chron. 30:9; Neh. 9:17, 31; Jonah 4:2.
 
16. A yw Duw’n ffyddlon?
Ydy: “Ffyddlawn yw Duw – mae yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog.”   1 Cor. 1:9 a 10:13; Heb. 6:18; Ioan 1:9; Exod. 34. 6.
 
17. A yw Duw’n sanctaidd?
Ydy; yn berffaith sanctaidd, ac yn casáu pechod: “Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd.”   Hab. 1:13; Esa. 6:3.
 
18. A yw Duw’n gyfiawn?
Ydy; yn anfeidrol gyfiawn, ac a gosba bechod: “Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.”   Salm 145:17.
 
19. A yw Duw’n dda?
Ydy, ym mhob peth: “Da ac uniawn yw yr Arglwydd.  Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda a maddeugar: ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.”   Salm 25:8 a 86:5.
 
 

PENNOD 2
AM Y GREADIGAETH

 
20. Beth greodd Duw heblaw dyn?
Creodd Duw bob peth yn y nefoedd a’r ddaear. “Myfi yw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur pob peth; yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun.”   Esa. 44:24; Act. 14:15.
 
21. O beth creodd Duw y pethau hyn?
O ddim: “Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir.”   Heb. 11:3.
 
22. Pam creodd Duw y byd?
I amlygu ei ogoniant ei hun: “Yr Arglwydd a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun.”   Diar. 16:4; Col. 1:16.
 
23. A yw Duw’n cynnal ac yn llywodraethu’r byd a greodd?
Ydy; yn cynnal ac yn llywodraethu ar bob peth: “Yr Arglwydd a barotodd ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth.”   Salm 103:19; Col. 1:17.
 
24. Mewn faint o amser creodd Duw y byd?
Mewn chwe diwrnod.   Exod. 20:11.
 
25. Beth wnaeth Duw y seithfed dydd?
Gorffwysodd, ac a’i sancteiddiodd ef.   Gen. 2:3.
 
26. A ddylem ni wneud yr un fath?
Dylem, yn ôl esiampl a gorchymyn Duw.
 
27. Pwy oedd y dyn cyntaf?
Adda.   1 Cor. 15:45.
 
28. Pwy oedd y wraig gyntaf?
Efa.   Gen. 3:20.
 
29. Sawl rhan sydd mewn dyn?
Dwy ran, sef corff ac enaid: “Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw yr hwn a’i rhoes ef.”   Preg. 12:7.
 
30. O beth creodd Duw gorff dyn?
O bridd y ddaear.   Gen. 2:7.
 
31. Sut greodd Duw enaid dyn?
“Duw a anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes, a’r dyn a aeth yn enaid byw.”   Gen. 2:7.
 
32. O beth gwnaeth Duw Efa?
O asen Adda tra roedd efe yn cysgu.   Gen. 2:21, 22.
 
33. Ble gosododd Duw y dyn wedi ei greu?
Yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw, ac i arglwyddiaethu dros holl greaduriaid y byd hwn.   Gen. 1:29, 30 a 2:15.
 
 

PENNOD 3
AM GWYMP DYN

 
34. Ym mha gyflwr creodd Duw ddyn?
Mewn cyflwr sanctaidd a dedwydd: “Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw Duw y creodd efe ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.”   Gen. 1:27; Eff. 4:24; Col. 3:10.
 
35. A barhaodd dyn yn y cyflwr hwn?
Naddo: “Dyn mewn anrhydedd nid arosodd. – Gwnaeth Duw ddyn yn uniawn; ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychymygion.”   Salm 49:12; Preg. 7:29.
 
36.  I ba gyflwr y syrthiodd dyn?
I gyflwr pechadurus a thruenus: “Wele, mewn anwiredd y’m lluniwyd ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.”   Salm 51:5; Gen. 3:16-19; 6:5-12.
 
37.  Sut syrthiodd dyn?
Trwy anufuddhau i orchymyn Duw.   Gen. 3: 11.
 
38. Beth oedd y gorchymyn a roddodd Duw iddo?
Peidio â bwyta o ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg.   Gen. 2:17.
 
39. Oedd angen ffrwyth y pren gwaharddedig ar y dyn?
Nac oedd, oherwydd rhoddwyd iddo o ffrwyth pob pren arall o’r ardd i’w fwyta.   Gen. 2:16.
 
40.  Pam gwaharddwyd hwn iddo?
I brofi ei ufudd-dod i ewyllys Duw.
 
41.  Pwy hudodd y dyn i anufuddhau i’r gorchymyn esmwyth hwn?
Hudwyd y dyn gan y wraig, a’r wraig gan y sarff.   Gen. 3:11-13.
42. Beth oedd canlyniad ei anufudd-dod?
Bu farw, a chollodd ddelw Duw – y ddelw y crewyd ef ynddo: “Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono: oblegid yn y dydd y bwytái ohono gan farw ti a fyddi farw.”   Gen. 2:17.
 
43. Beth sydd i ni ddeall wrth y farwolaeth hon?
(1.)  Marwolaeth ysbrydol yr enaid, sef ei ymadawiad lwyr oddi wrth Dduw: “A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau.”   Eff. 2:1; Ioan 5:24.
(2.) Marwolaeth naturiol, sef ysgariad y corff a’r enaid oddi wrth ei gilydd dros amser: “Gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn.”   Heb. 9:27.
(3.)  Marwolaeth dragwyddol, sef yr hyn oll a ddioddefir mewn corff ac enaid am bechod i dragwyddoldeb: “Cyflog pechod yw marwolaeth. – A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.”   Rhuf. 6:23; Mat. 24:46; Dat. 21:8.
 
44. Beth gollodd dyn?
Delw Duw.   Gen. 1:27.
 
45. Beth sydd i ni ddeall wrth ddelw Duw?
Gwybodaeth, cyfiawnder, a gwir sancteiddrwydd.   Eff. 4:24; Col. 3:10.
 
46. Beth oedd pechod Adda i ni?
“Trwy gamwedd un,” sef Adda, “y daeth barn ar bob dyn i gondemniad.”   Rhuf. 5:18.
 
47. A fu farw pawb yn Adda?
Do: “Yn Adda y mae pawb yn meirw.”   1 Cor. 13:22; Rhuf. 5:12.
 
48. A all dyn waredu ei hun o’r cyflwr truenus y syrthiodd iddo?
Na all: “A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig? A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion amhosibl yw hyn, ond gyda Duw pob peth sydd bosibl.”   Mat. 19:25, 26.
 
49. A yw Duw wedi ei ddigio trwy bechod?
Ydy, yn ddirfawr: “Digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion.”   Rhuf. 1:18.
 
50. A yw llidiawgrwydd Duw am bechod yn anghymodol?
Ydy, heb iawn digonol: “Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.”   Heb. 9:22.
51. A all dyn roi yr iawn digonol y mae Duw yn ei ofyn?
Na all; er dioddef byth yn uffern am ei bechod: “Gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth.”   Salm 49:8.
 
52. A all efe newid ei galon bechadurus?
Na all; nid oes ganddo ewyllys na gallu i ymadael â’i bechod: “A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni?  Felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai gynefinwyd â gwneuthur drwg?”   Jer. 18:22; Salm 51:10.
 
53. A oes unrhywbeth mewn dyn sy’n haeddu achub gan Dduw?
Nac oes, mwy nag sydd mewn gelyn yn haeddu cariad: “Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw.”   Rhuf. 8:7.
 
54. A fyddai’n gyfiawn i’r Arglwydd adael dyn yn y cyflwr truenus hwn am byth?
Yn ddiamau, byddai ei gyfiawnder yn ogoneddus yn nhragwyddol ddamnedigaeth pechaduriaid: “Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint?  Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd?”   Rhuf. 3:5, 6 a 9:14.
 
 

PENNOD 4
AM BERSON CRIST, A’R CYFAMOD GRAS

 
55. A adawodd Duw ddyn yn y cyflwr truenus y syrthiodd iddo trwy bechod?
Naddo: “Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab: fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.”   Ioan 3:16; Salm 136:23.
 
56. Pwy a anfonodd Duw i wared dyn?
Ei Fab ei hun: “Yr hyn ni allai y ddeddf oherwydd ei bod yn wan trwy’r cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd.”   Rhuf. 8:3; Gal. 4:4.
 
57. I bwy yn gyntaf yr amlygodd Duw ei fwriad i anfon Iesu Grist i’r byd?
I’n rhieni cyntaf ar ôl y cwymp, gan hysbysu y byddai Had y wraig, sef Crist, yn ysigo pen y sarff oedd wedi’u twyllo hwynt: “Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti â’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.”   Gen. 3:15.
 
58. Pam mae Crist yn cael ei alw Had y wraig?
(1.) Am fod Crist i gymryd arno natur dyn: “Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau.”   Heb 2:14.
(2.) Am ei fod i gael ei eni o wraig heb adnabod gŵr: “Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab ac a eilw ei enw ef Immanuel.”   Esa. 7:14; Mat. 1:23.
 
59. Pwy a feddylir wrth y sarff?
 Y diafol.   Dat. 20:2.
 
60. Pam mae’n cael ei alw’n sarff?
(1.) Am iddo ddefnyddio’r sarff i hudo’n rhieni cyntaf.   Gen. 8:1-7.
(2.) Oherwydd ei falais a’i elyniaeth yn erbyn Duw a’i bobl: “A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo yr holl fyd.”   Dat. 12:9.
(3.) Oherwydd ei ddichellion a’i gyfrwysdra i dwyllo dynion: “Nid ydym ni heb wybod ei ddichellion ef.”   2 Cor. 2:11.
 
61. Beth sydd i’w ddeall wrth fod ei ben yn cael ei ysigo?
Y byddai i Grist yn y natur ddynol ddatod ei holl weithredoedd, a distrywio ei holl lywodraeth: “I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol.”   1 Ioan 3:8.
 
62. Pa un yw Crist, Duw neu ddyn?
Y mae Crist yn Dduw ac yn ddyn hefyd: “Ac yn ddiddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ymddangosodd yn y cnawd.”   1 Tim. 3:16.
 
63. Sut daeth Crist i fod yn Dduw ac yn ddyn hefyd?
(1.) Yr oedd Crist yn Dduw erioed yn ei hanfod tragwyddol: “Yn y dechreuad yr oedd y Gair a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair.”   Ioan 1:1.
(2.) Cenhedlwyd dyndod Crist trwy’r Ysbryd Glân yng nghroth y Forwyn Fair: “A’r angel a ddywedodd wrthi, yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di: am hynny y peth sanctaidd a enir ohonot ti a elwir yn Fab Duw.”   Luc. 1:35.
 
64. Pam oedd yn rhaid i’r Gwaredwr fod yn Dduw ac yn ddyn?
(1.) Heb fod yn Dduw ni allsai ein gwaredu: “Nid oes Duw arall ond myfi; yn Dduw cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi.”   Esa. 45:21 a 63:5; Heb. 7:25-28.
(2.) Heb fod yn ddyn ni allsai ddioddef a marw drosom: “Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn (fel y dygai ni at Dduw), wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ysbryd.”   1 Pedr 3:18; Gal. 4:4, 6; Heb. 2:14.
 
65. Pa bethau sydd i’w hystyried yng ngwaith Duw yn anfon ei Fab i waredu pechaduriaid?
(1.) Yn nhragwyddoldeb etholodd Duw ei Fab yn Ben-Cyfamodwr ac yn Fechnïydd i’w bobl: “Myfi yr Arglwydd a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobl, ac yn oleuni cenhedloedd.”   Esa. 42:6.
(2.) Rhoddodd Duw, mewn arfaeth gadarn, ei bobl etholedig iddo i’w prynu a’u gwaredu: “Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd; eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist hwynt i mi.”   Ioan 17. 8:12 a 10:29 a 6:39,40.
(3.) Pan ddaeth cyflawnder yr amser, danfonodd Duw ei Fab i’r byd: “Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu y byd; eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diweddaf er eich mwyn chwi.”   1 Pedr 1:20; Gal. 4:4,5.
 
 

PENNOD 5
AM Y DDAU GYFAMOD

 
66. Sawl cyfamod sydd?
Dau, sef y Cyfamod Gweithredoedd a’r Cyfamod Gras.
 
67. Pa wahaniaeth sydd rhyngddynt?
(1.) Adda oedd y Pen-Cyfamodwr yn y Cyfamod Gweithredoedd, ond Crist yw y Pen-Cyfamodwr yn y Cyfamod Gras: “Megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb.”   1 Cor. 15:22.
(2.) Trwy gyfiawnder ac ufudd-dod dyn ei hun yr oedd cyfiawnhad a bywyd yn y Cyfamod Gweithredoedd; eithr trwy gyfiawnder Crist y mae cyfiawnhad a bywyd tragwyddol yn y Cyfamod Gras: “Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, mai y dyn a wnêl y pethau hynny a fydd byw trwyddynt.  Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn: Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod; neu pwy a ddisgyn i’r dyfnder? hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw.  Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd, Mae y gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu. – Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn heb weithredoedd y ddeddf.”   Rhuf. 10:5-8 a 3:20-28.
(3.) Nid oedd addewid o faddeuant byth, am y pechod lleiaf, yn y Cyfamod Gweithredoedd; eithr gelwir y pechaduriaid mwyaf i gael maddeuant, trwy Grist, yn y Cyfamod Gras: “Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd; pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.”   Esa. 1:18 a 55:1, 7; Dat. 22:17.
(4.) Cyn cwymp dyn i bechod y gwnaed y Cyfamod Gweithredoedd, am fwynhad o’r bywyd oedd ganddo; eithr ar ôl cwymp dyn yr amlygwyd y Cyfamod Gras, am gael bywyd tragwyddol ar ôl ei golli.”   Gen. 2 a 3; Eff. 1:4.
(5.) Yr oedd parhâd dyn yn y Cyfamod Gweithredoedd yn sefyll ar ei nerth naturiol ei hun; ond y mae parhâd dyn yn y Cyfamod Gras yn sefyll ar allu, ffyddlondeb, ac eiriolaeth Crist: “Mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol, na throaf oddi wrthynt, heb wneuthur lles iddynt; mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau, fel na chiliont oddi wrthyf.”   Jer. 32:40; Ioan 10:28, 29; 1 Ioan 2:2; 2 Tim. 2:19; Phil. 1:6.
 
68. A oedd offeiriad yn y Cyfamod Gweithredoedd?
Nac oedd.
 
69. A oes offeiriad yn y Cyfamod Gras?
Oes.
 
70. Pwy ydyw?
Iesu Grist, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol: “I’r man yr aeth y rhag-flaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec.”   Heb. 6:20.
 
71. A oedd cyfryngwr yn y Cyfamod Gweithredoedd?
Nac oedd.
 
72. A oes cyfryngwr yn y Cyfamod Gras?
Oes: “Canys un Duw sydd, ac un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu.”   1 Tim. 2:5; Heb. 9:15.
 
73. A oedd mechnïydd yn y Cyfamod Gweithredoedd?
Nac oedd.
 
74. A oes mechnïydd yn y Cyfamod Gras?
Oes: “Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn fechnïydd.”   Heb. 7:22.
 
75. A oedd proffwyd i’n dysgu yn y Cyfamod Gweithredoedd?
Nac oedd.
 
76. A oes proffwyd i’n dysgu yn y Cyfamod Gras?
Oes; y mae yr Iesu yn Broffwyd mawr: “Ac ofn a ddaeth ar bawb; a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith ni; Ymwelodd Duw â’i bobl.”   Luc. 7:16 a 24:19; Act. 3:23 a 7:37.
 
77. Pa fath yw’r Cyfamod Gras?
(1.) Mae’n gyfamod rhad: “Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad; canys trodd fy nig oddi wrtho.”   Hos 14:4.
(2.) Mae’n gyfamod sicr: “Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthynt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthynt.”   Esa 54:10.
(3.) Mae’n gyfamod tragwyddol, na dderfydd byth: “Cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, gwedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth a’m holl dymuniad yw.”   2 Sam 23:5.
(4.) Mae’n gyfamod manteisiol: canys y mae i ni hawl trwyddo yn Nuw a’i holl briodoleddau; yng Nghrist a holl ddoniau y prynedigaeth; yn yr Ysbryd Glân a’i ddoniau; ac o’r cwbl a gynhwysir yn holl addewidion Duw: “Mae pob peth yn eiddoch chwi, a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.”   1 Cor 3:21, 23; Sech 8:3; Heb 9:10.
(5.) Mae’n gyfamod sanctaidd, a’r cwbl yn sanctaidd a berthyn iddo: “I gwblhau y drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod.”  Luc 1:72.
 
 

PENNOD 6
AM SWYDDAU CRIST

 
78. Pam daeth Iesu Grist i’r byd?
“Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid.”   1 Tim. 1:15.
 
79. A ddaeth Crist i’r byd fel y crewyd Adda, yn ei lawn dwf?
Naddo, ganed ef yn blentyn bach fel eraill, gan ymostwng ym mhob peth i’n gwendidau di-bechod: “Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a’i ddodi yn y preseb.”   Luc 2:12.
 
80. Pryd ganed Crist?
Yng nghyflawnder yr amser a ordeiniodd Duw, ac a rag-fynegwyd gan y prophwydi.   Gal. 4:4.
 
81. Pwy oedd ei fam?
Mair Forwyn.   Mat. 1:18, 25.
 
82. Ble ganed Crist?
Ym Methlehem Jwda: “A thithau Bethlehem, tir Jwda, nid lleiaf wyt ymhlith tywysogion Jwda: canys ohonot ti y daw tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.”   Mat. 2:6.
 
83. Ym mha gyflwr ganed Crist?
Mewn cyflwr tlawd, mewn stabl: “A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a’i dododd yn y preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety.”   Luc 2:7.
 
84. A luniwyd Crist yn y groth yn ddibechod?
Do: “Am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti a elwir yn Fab Duw.”   Luc. 1:35.
 
85. A fu Crist fyw ei holl fywyd yn ddibechod?
Do: “Ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau.”   1 Pedr 2:22.
 
86. A ufuddhaodd Crist i’w rieni?
Do: “Fe fu ostyngedig iddynt.”   Luc 2:51.
 
87. A ddiystyrodd efe hwynt am eu bod yn dlawd?
Naddo, ond gofalodd am ei fam yn ei boenau mwyaf: “Yr Iesu, gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe, yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, Wele dy fab. Wedi hynny dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam.  Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref.”   Ioan 19:26, 27.
 
88. A ddylem ni ufuddhau a pharchu ein rhieni yn ôl esiampl Crist?
Dylem ufuddhau iddynt ym mhob peth: “Y plant ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn, ac yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda.”   Eff. 6:1, 2; Col. 3:20.
 
89. Beth yw ystyr yr enw Iesu?
Gwaredwr: “Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw.”   Luc 9:56.
 
90. Oddi wrth beth y mae Iesu yn gwaredu ei bobl?
(1.) Oddi wrth eu pechodau: “A thi a elwi ei enw ef Iesu; oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.”   Mat. 1:21.
(2.) Oddi wrth felltith y ddeddf: “Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith drosom.”   Gal. 3:13.
(3.) Oddi wrth demtasiynau, profedigaethau, a gallu’r diafol: “Nid ymaflodd ynoch demtasiwn ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.”   1 Cor. 10:13; 2 Pedr 2:9.
 
91. Beth mae’r enw Crist yn ei arwyddocáu?
Eneiniog.
 
92. Pwy eneiniodd ef?
Duw y Tad: “Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd; am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion.”   Heb. 1:9.
 
93. Â beth yr eneiniwyd Crist?
“Â’r Ysbryd Glân, ac a nerth.”   Act. 10:33.
 
94. Beth mae eneiniad Crist yn arwyddocáu?
Ei osodiad a’i gymhwysderau i fod yn Broffwyd, yn Offeiriad, ac yn Frenin i’w eglwys: “Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf; oherwydd yr Arglwydd a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd; efe a’m hanfonodd i rwymo y rai ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym.”   Esa. 66:1; Mat. 3:11; Ioan 3:34.
 
95. Beth mae Crist yn gwneud fel Proffwyd?
Dysgu ei bobl: “Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o’ch brodyr megis myfi: amo ef y gwrandewch ym mhob peth a ddywedo wrthych.”   Act. 3:22; Deut. 18:15.
 
96. Beth mae Crist yn dysgu i’w bobl?
Mae’n eu dysgu:
(1.) I adnabod Duw, a’r hwn a’i anfonodd efe, Iesu Grist: “A hyn yw y bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.”   Ioan 17:3.
(2.) I adnabod ei feddwl a’i ewyllys yn ei air: “Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb a deall, wedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun. – Fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw.”   Eff. 1:8, 9; Rhuf. 12:2; Eff. 5:17; Heb. 8:10, 11.
(3.) I adnabod eu hunain fel pechaduriaid: “A phan ddêl (y Diddanydd) efe a argyhoedda y byd o bechod.”   Ioan 16:8.
 
97. Trwy ba foddion mae Crist yn dysgu?
Trwy ei air a’i Ysbryd: “Ac i ti er yn fachgen wybod yr Ysgrythyr Lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth, trwy y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. – Eithr y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi yr holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi yr holl bethau, a ddywedais i chwi.”   2 Tim. 3:15; Ioan 14:26.
 
98. Beth mae Crist yn gwneud fel Offeiriad?
(1.) Offrymu ei hun yn aberth dros ei bobl: “A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.”   Eff. 5:2.
(2.) Eiriol dros ei bobl yn y nef: “Ac os pecha neb, y mae i ni eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y cyfiawn: ac efe yw yr iawn dros ein pechodau ni.”   1 Ioan 2:1, 2; Heb. 7:25 a 9:24; 1 Tim. 2:5.
 
99. Beth mae Crist yn gwneud fel Brenin?
(1.) Darostwng pechaduriaid gwrthnysig i fod yn bobl ufudd iddo: “Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr y mae gwlith dy enedigaeth i ti.”   Salm 110:3; 2 Cor. 10:4, 5.
(2.) Llywodraethu yng nghalonnau ei bobl trwy ras: “Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol. – Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych dan y ddeddf, eithr dan ras.”   Rhuf. 5:21 a 6:14.
(3.) Amddiffyn ei bobl: “Canys yr Arglwydd yw ein Barnwr, yr Arglwydd yw ein Deddfwr, yr Arglwydd yw ein Brenin; efe a’n ceidw.”   Esa. 38:22.
 
100. Beth yw swm yr hyn a wnaeth Crist trosom, ac er ein hiachawdwriaeth?
“Efe a fawrhaodd y gyfraith, ac a’i gwnaeth yn anrhydeddus.”   Esa. 42:21.
 
101. Sut ddarfu i Grist anrhydeddu’r gyfraith?
Trwy ufuddhau i’w gorchymynion, a dioddef eu melltithion: “Efe a’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau y groes.”   Phil. 2:8.
 
102. Beth yw swm y gyfraith?
“Caru’r Arglwydd â’n holl galon, a’n cymydog fel ni ein hunain.”   Mat. 22:37, 39.
 
103. A garodd Crist Dduw â’i holl galon?
Do; a hynny dan ei ddigofaint mwyaf: “A llefodd yr Iesu â llef uchel, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?”   Mat. 27:46.
 
104. A garodd Crist ei gymydog fel ef ei hun?
Do; a hynny yn eu gelyniaeth mwyaf yn ei erbyn: “A’r Iesu a ddywedodd (ar y groes), O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.”   Luc 28:34.
 
105. Pam anrhydeddodd Crist y gyfraith?
Am ei bod yn “sanctaidd, yn gyfiawn, ac yn dda.”   Rhuf. 7:12.
 
106. Oedd rhaid i Grist ufuddhau a dioddef hefyd?
Oedd; i dynnu ymaith y felltith, a gweithredu cyfiawnder perffaith i’w bobl: “Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sydd yn credu.”   Rhuf. 10:4.
 
107. Pam oedd rhaid i Grist ddioddef melltithion y gyfraith?
Am fod yn gyfiawn i Dduw gosbi pechod, a buasai yn anghyfiawn iddo beidio: “Gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth trwy ddioddefiadau.”   Heb. 2. 10.
 
108. O ba farwolaeth y bu Crist farw?
O farwolaeth felltigedig y groes: “Dioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd.”   Heb. 12:2.
 
109. Pwy groeshoeliwyd gyda Christ?
Dau leidr, un ar y llaw dde, a’r llall ar y chwith.   Luc 23:33.
 
110. Pwy roddodd ef i farwolaeth?
Pontius Peilat, rhaglaw Jwda.   Ioan 19:16.
 
111. Ble croeshoeliwyd Crist?
Ar fynydd Calfaria, tu allan i byrth Jerwsalem: “Iesu hefyd, fel y sancteiddiai y bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i’r porth.”   Heb. 13:12; Luc 23:33.
 
112. Beth oedd dioddefiadau Crist i ni?
Iawn dros ein pechodau: “Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.”   Rhuf. 3:25, 26.
 
113. A oedd dioddefiadau Crist yn ddigonol iawn am bechod?
Oeddynt; yn gyflawn, berffaith, a digonol aberth, offrwm, ac iawn dros y rhai oll a gredant ynddo yn yr holl fyd: “Efe yw yr iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.”   1 Ioan 2:2.
 
114. Pa sicrwydd sydd gennym o hynny?
Mae ei atgyfodiad a’i ddyrchafiad yn y nefoedd yn sicrhau hyny: “Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.”   Rhuf. 4:25; 1 Cor. 15:17-20; Phil 2:9.
 
115. Ym medd pwy claddwyd Crist?
Ym medd newydd Joseff o Arimathea, lle ni roddwyd dyn erioed: “Efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwolaeth.”   Esa. 53:9; Mat. 27:6; Marc 15:46.
 
116. Pam claddwyd Crist mewn bedd newydd, un na roddwyd dyn ynddo erioed?
Fel byddai ei atgyfodiad yn fwy eglur a sicr: “[Hwy] a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed.”   Luc 23:53.
 
117. Pryd cyfododd Crist?
Yn fore’r trydydd dydd: “A’i gladdu, a’i gyfodi’r trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythyrau.”   1 Cor. 15:4.
 
118. Oedd Crist yn abl i gyfodi ei hun o’r bedd?
Oedd: “Nid oes neb (medd efe) yn cymeryd fy einioes oddi arnaf fi; ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun.  Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymeryd hi drachefn.”   Ioan 10:18.
 
119. Oedd ei atgyfodiad yn profi ei fod yn Dduw yn ogystal ag yn ddyn?
Oedd: “Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl Ysbryd sancteiddiad, trwy yr atgyfodiad oddi wrth y meirw.”   Rhuf. 1:4.
 
120. Oedd Crist yn gryfach nac angau?
Oedd: gorchfygodd angau, a dinistriodd yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo: “O law y bedd yr achubaf hwynt, oddi wrth angau y gwaredaf hwynt: byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd: cuddir edifeirwch o’m golwg.”   Hos 13:14; Heb. 2:14; 1 Cor. 15:21, 22.
 
121. Ydy Crist yn Arglwydd ar y byw a’r meirw?
Ydy: “Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd.”   Rhuf. 14:9.
 
122. Pryd esgynodd Crist i’r nefoedd?
Ym mhen deugain diwrnod wedi ei atgyfodiad yr esgynodd yn weledig goruwch yr holl nefoedd, yn fuddugoliaethus ar ei holl elynion, gan gaethiwo caethiwed, ac a dderbyniodd roddion i ddynion.   Act. 1:9; Salm 68:18; Eff. 1:20, 21 a 4:8.
 
123. O ble’r esgynodd Crist?
O fynydd yr Olewydd yn agos i Jerwsalem.   Act. 1:12.
 
124. Beth oedd y weithred olaf a wnaeth ef cyn esgyn?
Bendithio’i ddisgyblion: “Ac fe ddarfu tra yr oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono efe oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef.”   Luc 24:51.
 
 
125. A ddaw Crist eto o’r nefoedd?
Daw, yn niwedd y byd hwn, i farnu’r byw a’r meirw.   Act. 1:11 a 8:21.
 
126. A all neb ond Crist yn unig ein hachub?
Na all: “Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall; canys nid oes enw arall dan y nef wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.”   Act. 4:12.
 
 

PENNOD 7
AM FFYDD A CHYFIAWNHAD

 
127. Sut mae i bechadur gael ei gyfiawnhau gerbron Duw?
Trwy ffydd yng nghyfiawnder Crist yn unig: “Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn heb weithredoedd y ddeddf.”   Rhuf. 3:28 a 10:3.
 
128. Oni all dyn gael ei gyfiawnhau trwy ei gyfiawnder ei hun?
Na all; am na fedd y cyfiawnder perffaith y mae’r gyfraith yn ei ofyn: “Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; ac megis deilen y syrthiasom ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynt, a’n dug ni ymaith.”   Esa. 64:6.
 
129. Beth sydd i ni ddeall wrth gyfiawnder Crist?
Ei ufudd-dod perffaith i’r gyfraith yn ei fywyd, a’r iawn a dalodd yn ei angau: “Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw. – Trwy ufudd-dod un, sef Crist, y gwneir llawer yn gyfiawn.”   1 Pedr 3:18; Rhuf. 5:19.
 
130. Tros bwy bu Crist farw?
Tros ei bobl etholedig a roddwyd iddo gan y Tad: “Yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.”   Ioan 10:15, 28, 29 a 17:6.
 
131. Ym mha ystyr y bu Crist farw drostynt?
Fel eu Mechnïydd, yn talu drostynt, ac yn marw yn eu lle: “Efe a archollwyd am ein camweddau ni; efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef; a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.”   Esa. 53:5.
 
132. A gyfrifwyd pechodau ei bobl i Grist?
Do: “Yr Arglwydd a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd. – Yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni, fel y’n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.”   Esa. 53:6; 2 Cor. 5:21.
 
133. Sut mae cyfiawnder Crist yn dod yn eiddo i ni?
Trwy gyfrifiad ohono gan Dduw, ac undeb â Christ: “Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder – eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo; ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw.”   Rhuf. 4:3, 23, 24.
 
134. Pwy sydd yn cyfiawnhau pechadur?
“Duw yw yr hwn sydd yn cyfiawnhau.”   Rhuf. 8. 33.
 
135. Beth yw cyfiawnhad?
Gweithred rasol Duw yn cyfrif cyfiawnder Crist trwy ffydd i bechadur: “A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy y prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu. – Un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha yr enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad trwy ffydd.”   Rhuf. 3:24, 30.
 
136. Sut mae pechadur yn cael ei ddwyn i undeb â Christ?
Trwy nerthol weithrediad yr Ysbryd Glân yn cenedlu ffydd yn yr enaid i ddod at Grist, ac i wneud derbyniad ohono: “Gwedi goleuo llygaid eich meddyliau – fel y gwypoch beth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ydym yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef.”   Eff. 1:18, 19; Rhuf. 10:17 a 1:19; Col. 2:12.
 
137. Beth yw ffydd?
(1.) Yn gyffredinol, credu tystiolaeth Duw yn ei air: “Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled.  Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw.”   Heb. 11:1, 3.
(2.) Ffydd gyfiawnhaol yw credu tystiolaeth Duw am ei Fab yn neilltuol, gydag ymorffwysiad arno am iachawdwriaeth: “Yr hwn nid yw yn credu i Dduw, a’i gwnaeth ef yn gelwyddog; oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab.  A hon yw y dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef.”   1 Ioan 5:10, 11.
 
138. Pa fath yw cyfiawnder Crist?
(1.) Mae’n gyfiawnder dwyfol, Duw yn y cnawd a’i cwblhaodd: “Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi. – A hwn fydd yr enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER.”   Rhuf. 3:21 a 1:17; Jer. 23:6; 1 Cor. 1:30.
(2.) Mae’n gyfiawnder digonol, nad oes rhaid ychwanegu ato: “Yr Arglwydd sydd foddlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a’i gwna yn anrhydeddus.”   Esa. 42:21.
(3.) Mae’n gyfiawnder tragwyddol: "Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd, i ddibenu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol.”   Dan. 9:24.
(4.) Mae’n gyfiawnder rhad, i bawb ac ar bawb a gredant: “Gwedi eich cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu.”   Rhuf. 8:22, 24.
 
139. Beth sy’n gysylltiedig â chyfrifiad o gyfiawnder Crist?
(1.) Cwbl faddeuant o’r holl bechodau: “Megis y mae Dafydd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd, Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau: dedwydd yw y gŵr nid yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddo.”   Rhuf. 4:6-8.
(2.) Derbyniad tragwyddol, a chymod â Duw: “Sef bod Duw yng Nghrist yn cymodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau.”   2 Cor. 5:19.
 
140. Pa fath undeb sydd rhwng Crist â’i bobl?
(1). Undeb gwirioneddol: “A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un.”   Ioan 17:22.
(2.) Undeb goruchel a dirgel: “Oblegid aelodau ydym o’i gorff ef, o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef – y dirgelwch hwn sydd fawr, eithr am Grist, ac am yr eglwys, yr wyf fi yn dywedyd.”   Eff. 5:30, 32.
(3.) Undeb anwahanol, na all na bywyd, nac angau, na dim arall, ei dorri: “Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? canys y mae yn ddiogel gennyf na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.”   Rhuf. 8:35, 38, 39; Esa. 54:10.
(4.) Undeb manteisiol iawn: “Mae pob peth yn eiddoch chwi, a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.”   1 Cor. 3:22, 23.
 
141. Pa fanteision a rhagorfreintiau sy’n dod oddi wrth undeb â Christ?
(1.) Mae Crist ei hun yn eiddo i ni yn ei holl berthnasau a’i swyddau: sef yn Gâr, yn Gyfaill, yn Fechnïydd, yn Feddyg, yn Frawd, yn Brynwr, yn Briod, yn Broffwyd, yn Frenin, yn Archoffeiriad trugarog, ac yn Ddadleuwr trosom gerbron Duw: “Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd.”   Heb. 3:14; Can. 2:16 a 5:16.
(2.) Mae cyfiawnder Crist yn eiddo i ni.  Trwy’r cyfiawnder yma y’n gwaredir oddi wrth ddamnedigaeth, ac y rhoddir i ni hawl i fywyd tragwyddol: “Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth.”   1 Cor. 1:30; Rhuf. 8:1.
(3.) Trwy undeb â Christ y’n mabwysiadir i fod yn blant i Dduw: “Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw: sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef.”   Ioan 1:12; Eff. 1:5.
(4.) Trwy undeb â Christ y mae ein bywyd ysbrydol a’n nerth i ddwyn ffrwyth da, er gogoniant i Dduw; megis y mae bywyd a nerth yr aelodau oddi wrth eu hundeb â’r corff, a ffrwyth y canghennau oddi wrth eu hundeb a’r pren: “Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer, oblegid hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim.”   Ioan 5:15; Rhuf. 7:4.
(5.) Trwy undeb â Christ y bydd atgyfodiad gogoneddus i’r saint, ac y gwneir hwynt yn gyd-etifeddion â Christ yn y nefoedd: “Os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ: os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y’n cyd-ogonedder hefyd.”   Rhuf. 8:17.
 
142. Ym mha ffordd y’n gwneir yn gyfranogion o’r breintiau hyn trwy Grist?
(1.) Fel yr ydym yn Adda yn gyd-gyfranogion ag ef yn ei gwymp a’i gosb, felly fe’n gwneir yng Nghrist yn gyd-gyfranogion o haeddiant ei holl ddioddefaint ef drosom: “Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb.”   1 Cor. 15:22.
(2.) Fel yr halogwyd ac y collwyd ni yn Adda trwy bechod, felly yng Nghrist y glanheir ac y cedwir ni trwy ffydd: “Y dyn cyntaf, Adda, a wnaed yn enaid byw, a’r Adda diweddaf yn ysbryd yn bywhau – ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol.”   1 Cor. 15:45, 49.
(3.) Trwy Grist y cawn y cwbl a gollasom yn Adda, a llawer mwy: oherwydd fod cyfiawnder Crist yn rhagori mewn daioni ar y drwg sydd mewn pechod: “Myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach; – lle yr amlhaodd pechod, y rhag-amlhaodd gras.”   Ioan 10:10; Rhuf. 5:20.
 
 

PENNOD 8
AM WAITH YR YSBRYD GLÂN (1)

 
143. Beth yw gwaith yr Ysbryd Glân?
Sancteiddio a chyfnewid pechaduriaid i ddelw Duw: “Nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw trosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o’r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i’r gwirionedd.”   2 Thes. 2:13; 1 Pedr 1:2; Luc 1:75.
 
144. Pwy mae’r Ysbryd yn sancteiddio?
Holl etholedigion bobl Dduw: “Etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist.”   1 Pedr 1:2; Eff. 1:4.
145. A oes unrhywun yn sanctaidd wrth naturiaeth?
Nac oes: “Wele mewn anwiredd y’m lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.”   Salm 51:6; Job 14:4; Ioan 3:8; Rhuf. 5:12.
 
146. A all unrhywun fod yn gadwedig heb sancteiddrwydd?
Na all: “Heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd.”   Heb. 12:14.
 
147. A all unrhywun sancteiddio pechadur aflan ond yr Ysbryd Glân?
Na all: “Eithr chwi a olchwyd; eithr chwi a sancteiddiwyd; eithr chwi a gyfiawnhawyd yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.”   1 Cor. 6:11 a 2:10, 11.
 
148. Wrth ba enwau y gelwir y trawsnewidiad hwn?
(1.) Ail-enedigaeth, am eu bod yn cael eu geni drachefn o Dduw: “Wedi eich ail eni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd.”   1 Pedr 1:23; Ioan 3:8.
(2.) Atgyfodiad, am fod yr enaid marw mewn pechod yn cael ei fywhau yn ysbrydol: “A chwithau, pan oeddych feirw mewn camweddau a dienwaediad eich cnawd, a gyd-fywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau.”   Col. 2:13; Eff. 2:1.
(3.) Creadigaeth newydd, am na all dim byd ond anfeidrol allu Duw ei gwblhau: “Ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw fel y rhodiem ni ynddynt.”   Eff. 2:10; 2 Cor. 5:5, 17.
(4.) Enwaediad y galon: “A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw.”   Deut. 30:6 a 10:16.
(5.) Rhoi calon ac ysbryd newydd: “Taenellaf arnoch ddŵr glân, fel y byddoch lân; oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eilunod, y glanhaf chwi.  A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a roddaf o’ch mewn chwi; a thynnaf y galon garreg o’ch cnawd chwi, a mi a roddaf i chwi galon gig.  Rhoddaf hefyd fy Ysbryd o’ch mewn, a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau, a chadw fy marnedigaeth, a’u gwneuthur.”   Esec. 36:25-27 a 11:19; Jer. 32:39.
(6.) Dodi’r gyfraith yn y meddwl, a’i hysgrifennu yn y galon: “Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonau yr ysgrifennaf hwynt: a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minnau yn bobl.”   Heb. 8:10.
 
149. Sut mae’r Ysbryd Glân yn gweithredu’r trawsnewidiad hwn?
Trwy uno’r enaid â Christ; oherwydd trwy undeb â Christ mae pob gras a rhagorfraint yn deillio i ni: “Od oes neb yn Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.”   2 Cor. 5:17.
150. Sut mae’r Ysbryd Glân yn dod â phechadur at Grist?
(1.) Trwy argyhoeddi’r enaid o bechod: “A phan ddêl, efe a argyhoedda y byd o bechod.”   Ioan 16:8.
(2.) Trwy amlygu Iesu Grist yn Iachawdwr digonol i bechadur: “Efe a’m gogonedda i (medd Crist), canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi.”   Ioan 16:14; Mat. 16:17; 1 Cor. 2:10.
(3.) Trwy ei nerthu i ymddiried yng Nghrist am iachawdwriaeth: “Ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy yr Ysbryd Glân.”   1 Cor. 12:8.
 
151. Beth yw Pechod?
“Anghyfraith yw pechod.”    1 Ioan 3:4.
 
152. Beth yw anghyfraith?
Anghydffurfiad â chyfraith Duw mewn meddwl, gair, neu weithred; sef, peidio â gwneud y peth mae Duw’n gorchymyn, neu wneud yr hyn mae’n gwarafun.
 
153. Sawl math o bechod sydd?
Dau, sef pechod gwreiddiol, a phechod gweithredol.
 
154. Beth yw pechod gwreiddiol?
Cyfrifiad o bechod cyntaf Adda i ni, a’r felltith ddyledus amdano, ynghyd â llygriad ein holl natur yn ganlyniad i hynny: “Felly, gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd.  Oblegid megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid, felly trwy ufudd-dod un y gwneir llawer yn gyfiawn.”   Rhuf. 5:18, 19.
 
155. Beth yw pechod gweithredol?
Troseddiad o gyfraith Duw ar feddwl, gair, neu weithred: “Pob un sydd yn gwneuthur pechod sydd yn gwneuthur anghyfraith.”   1 Ioan 3:4.
 
156. Beth sy’n gynwysedig mewn gwir argyhoeddiad o bechod?
(1.) Adnabyddiaeth o bechadurusrwydd ein holl natur: “Canys mi a wn nad oes ynof fi, (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo.”   Rhuf. 7:18.
(2.) Adnabyddiaeth o’r mawr ddrwg sydd mewn pechod: “Pa fodd y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn a phechu yn erbyn Duw?”   Gen. 39:9.
(3.) Cyfiawnhad o uniawn farn Duw yn ein herbyn am bechod: “Yn dy erbyn di, tydi dy hun, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y’th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.”   Salm 51:4; Rhuf. 3:4.
(4.) Amlygiad o’r angenrheidrwydd am iachawdwriaeth mewn un arall i’n gwaredu oddi wrth y farn ofnadwy hon: “A cheidwad y carchar a ddywedodd, Beth sydd raid i mi wneuthur fel y byddwyf gadwedig?  A hwy a ddywedasant wrtho, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig a fyddi.”   Act. 16:30, 31 a 2:37, 38.
 
157. Trwy ba foddion, yn fwyaf neilltuol, mae’r Ysbryd Glân yn argyhoeddi’r enaid o bechod?
(1.) “Trwy y ddeddf y mae adnabod pechod.”   Rhuf. 3:20 a 7:7.
(2.) Mae’r Ysbryd Glân “yn agoryd eu llygaid, ac yn eu troi o dywyllwch i oleuni, fel yr ymddangoso pechod trwy y gorchymyn yn dra phechadurus.”   Act. 26:18; Rhuf. 7:13.
 
158. Beth yw gwir edifeirwch am bechod?
Mae gwir edifeirwch yn cynnwys:
(1.) Gwir ostyngeiddrwydd a thristwch duwiol am bechod: “Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun, ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.”   Job 42:6; Luc 1:37, 38.
(2.) Casineb mawr at bechod: “Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch? ie, pa amddiffyn; ie, pa soriant; ie, pa ofn; ie, pa awyddfryd; ie, pa sêl; ie, pa ddial?”   2 Cor. 7:11.
(3.) Ymgais dyfal am waredigaeth oddi wrtho: “Ys truan o ddyn wyf fi!  Pwy a’m gwared oddi wrth gorff y farwolaeth hon?”   Rhuf. 7:24.
(4.) Adnewyddiad yn ysbryd ein meddwl: “Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl, a gwisgo y dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.”   Eff. 4:23, 24; Mat. 12:22.
 (5.) Dychweliad at Dduw yng Nghrist: “Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymer drugaredd arno: ac at ein Duw ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth.”   Esa. 55:7.
(6.) Amcan difrifol i ddilyn buchedd newydd: “Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod?”   Hos. 14:8; 1 Pedr 4:2, 3.
 
159. A fydd unrhywun yn gadwedig heb wir edifeirwch am bechod?
Na fydd: “Onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll.”    Luc 13:5.
 
160. A yw Duw’n maddau pechodau’r edifeiriol?
Ydy: mae edifeirwch a maddeuant wedi eu cysylltu’n anwahanol â’i gilydd: “Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.”   Act. 5:31 a 3:19.
 
161. Sut mae Duw’n maddau?
(1.) Mae’n maddau’n gyfiawn, trwy Grist: “Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder.”   1 Ioan 1:9; Salm 51:4.
(2.) Mae’n maddau’n rhad: “Myfi, myfi yw yr hwn a ddileaf dy gamweddau, er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau.”   Esa. 43:25.
(3.) Mae’n maddau’r cwbl: “Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd.”   Salm 103:3; Mic. 7:19.
(4.) Mae’n maddau am byth: “Trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a’u pechodau hwynt, a’u hanwireddau, ni chofiaf ddim ohonynt mwyach.”   Jer. 31:34; Heb. 8:12.
 
 

PENNOD 9
AM WAITH YR YSBRYD GLÂN (2)

 
162. Beth mae’r Ysbryd Glân yn gwneud ymhellach i ddod â phechadur at Grist?
Amlygu Iesu Grist yn Iachawdwr digonol i bechaduriaid: “A phan ddêl, efe a argyhoedda y byd o gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach.”   Ioan 16:8, 10.
 
163. Trwy ba foddion mae’r Ysbryd Glân yn amlygu Crist?
Trwy’r gair, ac ordinhadau’r efengyl: “Chwiliwch yr ysgrythyrau – hwynt-hwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi. – Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.”   Ioan 5:39; Rhuf. 10:17.
 
164. Pwy sy’n derbyn y datguddiad hwn o Grist?
(1.) Y rhai a wir argyhoeddwyd o bechod: “Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion.”   Mat. 9:12.
(2.) Y rhai a wir gyfnewidiwyd gan Ysbryd Duw: “Dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef: ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt.”   1 Cor. 2:14.
 
165. Pa bethau yn yr Iesu yn fwyaf neilltuol mae’r Ysbryd Glân yn eu datguddio i’r enaid?
(1.) Rhagorol fawredd a gogoniant ei Berson: “A’r gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni; ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr unig-anedig oddi wrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd.”   Ioan 1:14.
(2.) Ei osodiad gan Dduw yn y swydd gyfryngol: “Oddi wrth Dduw y deilliais ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd.”   Ioan 8:42 a 17:3.
(3.) Digonolrwydd ei aberth yn iawn am bechod: “Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”   Mat. 20:28. 1 Pedr 1:18, 19; Dat. 1:5.
(4.) Anchwiliadwy olud ei ras: “I mi, y llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y cenedloedd anchwiliadwy olud Crist.”   Eff. 3:8, 9; Col. 1:17-19.
(5.) Ei ewyllysgarwch i dderbyn pechaduriaid: “Yr hyn oll y mae y Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.”   Ioan 6. 37; Esa. 55:7; Dat. 22:17.
 
166. Beth yw effeithiau’r datguddiad hwn o Grist?
(1.) Y cariad anwylaf at Grist: “Oherwydd arogl dy enaint daionus, enaint tywalltedig yw dy enw; am hynny y llancesau a’th garant.”   Can. 1:3, 4; 1 Pedr 2:7.
(2.) Ymwrthodiad cyflawn â phopeth arall, ac ymorffwysiad ar Grist yn unig am iachawdwriaeth: “Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd; er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist, ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o’r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd.”   Phil. 3:8, 9.
(3.) Heddwch tuag at Dduw: “Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist.”   Rhuf 5:1.
(4.) Cynnydd mewn gwir sancteiddrwydd: “Eithr nyni ag wyneb agored yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.”   2 Cor. 3. 18.
 
167. Ym mha bethau y gwelir gogoniant Duw yn fwyaf neilltuol?
Gwelir gogoniant Duw:
(1.) Yng ngwaith y greadigaeth: “Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg; sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod.”   Rhuf. 1:20; Salm 19:1.
(2.) Gwelir ef yn ogoneddus yn ei ragluniaethau dirgel, yn trefnu ac yn cynnal pob peth yn anfeidrol ddoeth a da: “Ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi-dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd.”   Act. 14:17; Rhuf. 11:33.
(3.) Mae’r gyfraith yn gosod allan ei gyfiawnder a’i sancteiddrwydd pur: “Mae’r ddeddf yn sanctaidd, a’r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda.”   Rhuf. 7:12.
(4.) Ond yn wyneb Iesu Grist y gwelir holl briodoleddau Duw yn disgleirio gyda digyffelyb ogoniant: “Canys Duw, yr hwn a orchymynodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth, gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.”   2 Cor. 4:6.
 
168. Pa briodoleddau sy’n ymddangos yn ogoneddus yn wyneb Iesu Grist?
Holl briodoleddau y Duwdod; ond, yn fwyaf neilltuol:
(1.) Ei gariad rhad tragwyddol: “Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd, fel y byddem byw trwyddo ef.”   1 Ioan 4:9.
(2.) Dyfnder golud doethineb Duw, yn trefnu y fath ffordd anrhydeddus iddo ei hun, a manteisiol i ninnau: “Fel y byddai yr awr hon yn hysbys i’r tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy yr eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw.”   Eff. 3:10.
(3.) Ei sancteiddrwydd pur a’i gyfiawnder anfeidrol, yn cosbi pechod mor llym ar ei Fab ei hun: “Efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni, cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni. – Yr Arglwydd a fynnai ei ddryllio ef: efe a’i clwyfodd.”   Esa. 53:5, 10.
 
169. Sut mae golwg ar ogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist yn ein newid i’r un ddelw?
(1.) Trwy edrych ar gariad Duw, yn wyneb Iesu Grist, mae’r Ysbryd Glân yn tywallt cariad Duw yn ein calonnau: “Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.”   1 Ioan 4:19.
(2.) Mae golwg ar drugaredd faddeuol Duw yn ein gwneud ninnau o ysbryd maddeugar: “Byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.” Eff. 4:8; Mat. 6:14, 18, 35 a 5:44, 45; Marc 11:25.
(3.) Mae golwg ar sancteiddrwydd a chyfiawnder dwyfol, yn casáu ac yn cosbi pechod yn ddiarbed ar ei Fab ei hun, yn ein llanw ninnau â’r casineb eithaf ato: “A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau, a hwy a edrychant arnaf fi, yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano, fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig.”   Sech. 12:10.
 
170. Beth ymhellach mae’r Ysbryd Glân yn gwneud tuag at y rhai a sancteiddiwyd?
(1.) Mae’n eu diddanu yn eu holl dristwch: “A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi ddiddanydd arall, fel yr aroso gyda chwi yn dragwyddol.”   Ioan 14:16.
(2.) “Mae’r Ysbryd hwn yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni ein bod ni yn blant i Dduw.”   Rhuf. 8:16.
(3.) Mae’n eu selio, a thrwy hynny yn cryfhau eu ffydd a’u hymroddiad i Dduw: “Yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y’ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid.”   Eff. 1:18 a 4:30.
(4.) Mae EFE ynddynt yn ernes o’u hetifeddiaeth dragwyddol: “Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.”   Eff. 1:14; 2 Cor. 1:22.
(5.) Mae’n Ysbryd gras a gweddïau ynddynt, ac yn erfyn trostynt ag ocheneidiau annhraethadwy: “A’r un ffunud y mae yr Ysbryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid ni: canys ni wyddom ni beth a weddïom megis y dylem; eithr y mae yr Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau annhraethadwy.”   Rhuf. 8:26; Sech. 12:10.
(6.) Mae’n eu cynorthwyo ac yn eu harwain; “Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hynny sydd blant i Dduw.”   Rhuf. 8:14; Gal. 5:18.
(7.) Mae’n eu dysgu yn holl wirioneddau’r efengyl: “Eithr y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi yr holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi. – Ac efe a’ch tywys i bob gwirionedd. – Trwyddo ef y mae i ni ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad.”   Ioan 14:26 a 16:13; Eff. 2:18.
(8.) Mae’n eu bywhau ac yn eu cadarnhau mewn nerth yn y dyn oddi mewn, i ddioddef a gwneud ewyllys Duw ym mhob peth: “Ar roddi ohono ef i chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef yn y dyn oddi mewn.”   Eff. 3:16.
(9.) Mae’n bywhau eu cyrff, ac fe fydd yn eu hatgyfodi i ogoniant yn y dydd olaf: “Os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch: yr hwn a gyfododd Grist o feirw, a fywioca hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.”   Rhuf. 8:11.
 
171. Sut mae’r Ysbryd Glân yn gweithredu yn ei bobl?
(1.) Mae’n gweithredu gyda nerth anorchfygol: “Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i’r llawr; gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder ag sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist.”   2 Cor. 10:4, 5. Eff. 1:19. 20.
(2 ) Mae’n gweithredu’n rhydd, yn ôl ei ewyllys ei hun: “Mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno, a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned; felly y mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd.”   Ioan 3:8;. 1 Cor. 12:11; Exod. 33:19; Rhuf. 9:15.
(3.) Mae’n gweithredu’n rhad, heb ddim ynom ni yn ei gymell: “Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth: ac â’th hael Ysbryd cynnal fi.”   Salm 51:12.
 
172. Beth yw ein dyletswydd yn wyneb yr ystyriaethau hyn?
(1.) Gweddïo am yr Ysbryd Glân: “Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofyno ganddo?”   Luc 11:18.
(2.) Addoli Duw yn yr Ysbryd: “Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd.”   Ioan 4:24.
(3.) Rhodio yn ôl yr Ysbryd, a synied pethau yr Ysbryd: “Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd: canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau y cnawd y maent yn synio; eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau yr Ysbryd.”   Rhuf. 8:4. 5.
(4.) Peidio â chythruddo a thristáu’r Ysbryd Glân: “Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy yr hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.”   Eff. 4:30.
(5.) Cydnabod yr Ysbryd yn ddiolchgar yn ei holl ddoniau, ei gynorthwyon, a’i gysuron: “I Dduw y byddo y diolch am ei ddawn annhraethol.”   2 Cor. 9:15. 1 Thes. 5:18.
(6.) Peidio â diffodd yr Ysbryd yn ei gynhyrfiadau sanctaidd, eithr ufuddhau iddo o barodrwydd rneddwl: “Na ddiffoddwch yr Ysbryd.”   1 Thes. 5:19.
 
173. Beth yw ffrwythau’r Ysbryd?
“Ffrwythau’r Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: yn erbyn y cyfryw nid oes deddf.”   Gal. 5:22, 23.
 
174. A all unrhywun ddwyn y ffrwythau hyn heb fod yr Ysbryd Glân yn trigo ynddynt?
(1.) Gall fod rhywbeth tebyg, heb fod yn wir ffrwyth: “A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi.”   2 Tim. 3:5.
(2.) Gall fod doniau’r Ysbryd, ond ni all fod ffrwythau da heb wreiddyn da i’w dwyn: “Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.”   Mat. 7:18.
 
175. Beth yw ffrwythau’r cnawd?
“Amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai ydynt tor-priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliad, swyn-gyfaredd, casineb, cynhennau, gwŷn-fydau, llid, ymrysonau, ymbleidiau, heresïau, cenfigenau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn.”   Gal. 5:19, 20, 21.
 
176. A all y rhai sydd yn gwneud y cyfryw bethau fod yn gadwedig?
Na allant, heb eu trawsnewid: “Am y rhai yr wyf yn rhag-ddywedyd wrthych, megis ag y rhag-ddywedais, na chaiff y rhai sy’n gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.”   Gal. 5:21.
 
177. A yw’r rhai a drawsnewidiwyd gan yr Ysbryd Glân yn gwbl rydd oddi wrth y cnawd a’i ffrwythau?
Ydynt, oddi wrth ei lywodraeth, ond nid oddi wrth ei fodolaeth a’i weithrediadau: “Canys y mae y cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch.”   Gal. 5:17.
 
 

PENNOD 10
AM Y GYFRAITH

 
178. Beth sydd i amlygu’i hun yn brawf eglur o’n hadnewyddiad gan yr Ysbryd Glân?
Ufudd-dod parod i holl orchmynion Duw: “O cherwch fi,” medd Crist, “cedwch fy ngorchymynion.”   Ioan 14:15; 1 Pedr 1:2.
 
179. Sut syrthiodd dyn?
Trwy anufudd-dod: “Trwy anufudd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid.”   Rhuf. 5:19.
 
180. Sut cyfiawnheir pechadur gerbron Duw?
“Trwy ufudd-dod a marwolaeth Crist drosto: “Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.”    Rhuf. 4:25.
 
181. I beth mae’r Ysbryd yn adnewyddu pechadur?
I ufudd-dod parod ac ewyllysgar: “I Dduw y byddo y diolch, eich bod chwi gynt yn weision pechod, eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi.”   Rhuf. 6:17; Tit. 2:14.
 
182. Pa reol o uffudd-dod rhoddodd Duw i ni?
Ei ewyllys ddatguddiedig, yn enwedig ei gyfraith sanctaidd: “O cherwch fi, cedwch fy ngorchymynion.”   Ioan 14:15; 2 Tim. 3:16, 17.
 
183. Beth sydd i’w ddeall wrth gyfraith Duw?
Y Deg Gorchymyn[1] a roddwyd i Israel ar fynydd Sinai: “Efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchymynodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y deng air; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.”   Deut. 4:13; Exod. 31:18.
 
184. Oedd Duw wedi rhoi’r gyfraith o’r blaen i ddyn?
Oedd, roedd wedi ei rhoi yng nghalonnau ein rhieni cyntaf cyn y cwymp.   Gen. 2:17.
 
 
185. Pam rhoddwyd y gyfraith i ddyn wedi’r cwymp?
(1.) I ddangos cyfiawn awdurdod Duw i ofyn ufudd-dod, er bod dyn wedi anufuddhau: “Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, a’th ddug di o dir yr Aifft: ac ni chai gydnabod Duw ond myfi: – ac nid oes Iachawdwr ond myfi.”   Hos. 13:4; Exod. 20:1, 2.
(2.) Nid fel y caem fywyd trwyddi, ond i ddangos ein bod wedi colli ein bywyd trwy bechod: “Y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi’r camwedd.”   Rhuf. 5:20.
(3.) Y ddeddf, trwy ddangos yr angenrheidrwydd o gyfryngwr, oedd ein hathro ni at Grist.   Gal. 3:24.
(4.) I fod yn rheol buchedd sanctaidd: “Cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith – sef caru yr Arglwydd eich Duw, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchymynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, a’ch holl enaid.”   Jos. 22:5; Mat. 5:17; 1 Cor. 9:21; Deut. 6:6, 7, 17 a 11:22.
 
186. Beth yn neilltuol sydd i’w ystyried ynghylch y Deg Gorchymyn?
(1.) Awdurdod Duw ynddynt, yn ein rhwymo i ufudd-dod: “Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchymynion a’i ddeddfau.”   Deut. 27:10; 2 Bren. 17:37.
(2.) Eu bod yn rhwymo’r holl ddyn – gorff ac enaid – i ufudd-dod, neu i gosbedigaeth am anufudd-dod: “Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol.”   Rhuf. 1:14.
(3.) Helaethrwydd y gorchmynion o ran eu hystyr: “Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd; ond dy orchymyn di sydd dra eang.”   Salm 119:96.
(4.) Bod awdurdod Duw ym mhob un fel ei gilydd, fel na ellir torri un heb dorri’r gyfraith: “Canys pwy bynnag a gadwo y gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl.”   Iago 2:10.
(5.) Eu bod yn peri pob dyletswydd gwrthwyneb i’r pechodau a waherddir ynddynt, ac yn gwahardd pob pechod croes i’r dyletswyddau a orchmynnir ynddynt.
 
187. Pa bethau yn fwyaf arbennig mae’r gyfraith yn dangos i ni?
Gwelir yn y gyfraith, fel mewn drych cywir:
(1.) Anfeidrol sancteiddrwydd, cyfiawnder a daioni Duw: “Felly yn wir y mae y ddeddf yn sanctaidd, a’r gorchymyn yn sanctaidd, yn gyfiawn, ac yn dda.”   Rhuf. 7:12; 1 Tim. 1:8.
(2.) Hollol lygriad ac euogrwydd dyn: “Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer.  Pwy a ddeall ei gamweddau?  Glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig; atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus, na arglwyddiaethont arnaf.”   Salm 19:11, 12; Rhuf. 7:7.
(3.) Perffeithrwydd cyfiawnder Crist mewn ufudd-dod iddi dros ei bobl: “Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un a’r sydd yn credu.”   Rhuf. 10:4 a 5:19.
(4.) Natur gwaith yr Ysbryd Glân ar galon pechadur, yn ei rag-barotoi i ogoniant: “Hwn yw y cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwy a fyddant i minnau yn bobl.”   Heb. 8:10.
     Cyflawnwyd y gyfraith i gyd,
        Fe ddofwyd ei llid heb fy lladd;
      Cyfiawnder wrth hir ofyn iawn,
        Ei daliad yn gyflawn a ga’dd:
      Cyfiawnder a’r gyfraith sy’n awr
        Yn edrych i lawr yn ddi-lid;
      Mae’r priodoliaethau mewn hedd,
        Yn gweiddi, “Trugaredd!” i gyd.
 
 

PENNOD 11
AM SWM Y GYFRAITH

 
188. Beth yw swm y gyfraith?
Cariad: sef caru Duw â’n holl galon, a’n cymydog fel ni ein hunain: “A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl.  Hwn yw y cyntaf, a’r gorchymyn mawr.  A’r ail sydd gyffelyb iddo: Câr dy gymydog fel ti dy hun.  Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll.”   Mat. 22:37, 38.
 
189. Pam dylem ni garu Duw?
(1.) Oblegid ei hawddgarwch anfeidrol ynddo ei hun: “Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw.”   1 Ioan 4:8, 16.
(2.) Oblegid ei gariad ef i ni: “Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.”   1 Ioan 4:19; Ioan 15:9.
 
190. Pwy yw’r rhai sy’n caru Duw?
(1.) Y rhai sy’n gweld y fath ogoniant a chyflawnder ynddo, fel y maent yn ei ddewis ef yn rhan, etifeddiaeth, ac yn Arglwydd iddynt byth, yn ôl y gorchymyn cyntaf: “Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.”    Exod. 20:8.
(2.) Y rhai sy’n dyfal addoli Duw, mewn ysbryd a gwirionedd, yn ôl ei feddwl ei hun, ac nid yn ôl eu dychymyg eu hunain, yn ôl yr ail orchymyn: “Na wna iti ddelw gerfiedig.”   Exod. 20:4-6.
(3.) Y rhai sydd yn eu holl ymddygiad yn anrhydeddu Duw, a’i enw, a’i ogoniant, a’i achos yn eu calonnau, yn ôl y trydydd gorchymyn: “Na chymer ei enw ef yn ofer.”   Exod. 20:7.
(4). Y rhai sydd yn gydwybodol yn neilltuo rhan o’u hamser, yn enwedig y Saboth, i addoli Duw yn gyhoeddus, ac i ddwyn ei achos ymlaen yn eu calonnau, ac yn y byd, yn ôl y pedwerydd gorchymyn: “Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Saboth.”   Exod. 20:8.
 
191. Pam dylem ni garu ein cymydog fel ni ein hunain?
(1.) Oherwydd bod gorchymyn Duw yn peri hynny: “Yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun.”   Gal. 5:14; Lef. 19:18; Mat. 22:39.
(2.) Am fod ein cymydog yn haeddu ei garu gymaint â ni ein hunain: “Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ag arall? a pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn?”   1 Cor. 4:7.
 
192. A ddylem ni garu pawb yr un fath?
(1.) Dylem garu pawb â chariad o ewyllys da, hyd yn oed ein gelynion: “Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant.”   Mat. 5:44.
(2.) I rai mae’n ddyledus arnom anwyldeb mwy neilltuol: “Gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu y ffydd.”   Gal. 6:10; Salm 15:2, 3 a 16:4.
 
192. A yw’r Ysbryd Glân yn adnewyddu calon pob dyn sy’n dduwiol i gariad at Dduw a’i gymydog?
Ydy: mae’n tywallt cariad Duw yn eu calonnau – ac yn eu dysgu i garu ei gilydd.   Rhuf. 5: 5; 1 Thes. 4:9; Ioan 15:12, 17.
 
194. Pwy yw’r rhai sy’n caru eu cymdogion fel nhw eu hunain?
(1.) Y rhai sy’n caru, anrhydeddu, ac ufuddhau i’w rhieni; yn ymddwyn yn ostyngedig, gan barchu pawb o’u gwell, yn ôl y pumed gorchymyn: “Anrhydedda dy dad a’th fam, fel yr estyner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.”   Exod. 20: 12; Rhuf. 13:7.
(2.) Y rhai nad ydynt yn casáu person eu cymydog, nac yn ei niweidio ar air na gweithred, ond yn ceisio ei les a’i ddedwyddwch mewn corff ac enaid, yn ôl y chweched gorchymyn: “Na ladd.  Pob un a ddigio wrth ei frawd, heb ystyr, a fydd euog o farn.”   Mat. 5: 22.
(3.) Yr hwn nid yw yn ymhalogi ei hun, nac yn foddion trwy air na gweithred i halogi diweirdeb ei gymydog, yn ôl y seithfed gorchymyn: “Na wna odineb.  Pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, mae wedi gwneuthur eisioes odineb â hi yn ei galon.”   Mat. 5:28.
(4.) Y rhai nid ydynt yn niweidio, ond yn ceisio lles eu cymydog yn ei feddiannau bydol, fel yr eiddynt eu hunain, yn ôl yr wythfed gorchymyn: “Na ladrata.  Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo arall hefyd.”   Phil. 2:4; 1 Cor. 13:5.
(5.) Y rhai ydynt yn tystiolaethu y gwir wrth eu cymydog, ac am eu cymydog, yn ôl y nawfed gorchymyn: “Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.”   Deut. 12:17 a 19:5.
(6.) Y rhai sydd yn fodlon i’w cyflwr eu hunain, ac yn gwylied ar eu calonnau rhag chwennych dim yn bechadurus sydd eiddo eraill; ond yn dysgu i lafurio yn gywir, i geisio ennill eu bywyd, ym mha ryw fuchedd bynnag y rhyngo bodd i Dduw eu galw, yn ôl y degfed gorchymyn: “Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na’i was, na’i forwyn, na’i ŷch, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo.”   Exod. 20:17.
 
195. A all gwir waith cadwedigol Ysbryd Duw fod ar enaid dyn, heb gariad?
Na all: “Pe llefarwn a thafodau dynion ac angylion – a gwybod y dirgelion oll, a phob gwybodaeth ... ac heb fod gennyf gariad, nid wyf fi ddim.”   1 Cor. 13:1, 2; 1 Ioan 4:8.
 
196. Sut dylem ni garu Duw?
Â’n holl galon, â’n holl enaid, â’n holl feddwl, ac â’n holl nerth: “Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl.”   Luc 10:27; Deut. 6:5.
 
197. A yw Duw’n haeddu i ni ei garu â’n holl galon?
Ydy: “mae efe yn anfeidrol goruwch ein cariad, ein bendith, a’n moliant.”   Neh. 9:5.
 
198. A yw’n bechod i ni beidio caru Duw â’n holl galon?
Ydy, yn bechod dirfawr: “Gwae chwi y Phariseaid, canys yr ydych chwi yn degymu y mintys, a’r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw.”   Luc 11:42.
 
199. Pryd dylem garu Duw?
Bob amser, ac i dragwyddoldeb: “Cariad byth ni chwymp ymaith.”   1 Cor. 13:8.
 
200. A all unrhywun gadw’r gyfraith hon yn berffaith?
Na all: “Mae y ddeddf yn ysbrydol, a ninnau yn gnawdol, wedi ein gwerthu dan bechod.”   Rhuf. 7:14 a 8:7.
 
201. A yw ein hanallu i ufuddhau iddi yn bechod?
Ydy: canys ein gelyniaeth yn erbyn Duw a dyn yw ein hanallu, ac mae hyn yn bechod dirfawr: “Synied y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw; canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw: oblegid nis gall chwaith.”   Rhuf. 8:7 a 1:30; Titus 3:3.
 
202. Oni ellir diddymu’r gyfraith neu ei fnewid?
Na ellir, fel, chwaith, na ellir gwneud cyfiawnder yn anghyfiawnder, a sancteiddrwydd yn halogedigaeth: “Yn wir meddaf i chwi (medd Crist), hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll.”   Mat. 5:17, 18; Luc 16:17.
 
203. Sut y’n gwaredir ni oddi wrth felltithion y gyfraith?
Trwy ffydd yng Nghrist yn unig: “Yr hwn a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf.”   Gal. 3:13; Rhuf. 10:4.
 
204. Sut mae i ni gael calonnau i garu Duw, a ninnau wrth naturiaeth yn elynion iddo?
Mae’r Ysbryd Glân yn tywallt cariad Duw yn nghalonnau’r rhai sydd yn credu yng Nghrist: “A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni trwy yr Ysbryd Glân, yr hwn a roddwyd i ni.”   Rhuf. 5:5.
 
205. Sut mae’r Ysbryd Glân yn tywallt cariad Duw yn ein calonnau?
(1.) Trwy enwaedu ar y galon, a darostwng yr elyniaeth ynom: “A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw.”   Deut. 30:6.
(2.) Trwy amlygu cariad Duw yng Nghrist i bechaduriaid: “Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda’r holl saint, beth yw y lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder: a gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw.”   Eff. 3:17-19.
(3.) Trwy ennyn cariad ynom tuag at Dduw, yr hwn a’n carodd ni mor fawr: “Oherwydd arogl dy enaint daionus, enaint tywalltedig yw dy enw; am hynny y llancesau a’th garant.”   Can. 1:3, 4; Ioan 8:10 a 8:42; 1 Ioan 4:7.
 
206. Ym mha ffurf y rhoddwyd y Deg Gorchymyn?
(1.) Mae Duw’n llefaru pob gorchymyn mewn ffurf unigol, wrth bob dyn ar ei ben ei hun: a bydd yn rhaid i bob un roddi cyfrif i Dduw am y trosedd ohonynt: “Felly, gan hynny, pob un ohonom drosto ei hun a rydd gyfrif i Dduw.”   Rhuf. 14:12.
(2.) Rhoddwyd y gorchmynion, gan mwyaf, mewn ffordd nacáol, i wahardd pechodau, yn dangos ein tueddiad cryf i bechod.
(3.) Rhoddwyd y gorchmynion yn ysgrifenedig ar ddwy lech; sef ein dyletswydd i Dduw ar y llech gyntaf, yn y pedwar gorchymyn cyntaf; a’n dyletswydd at ein cymydog ar yr ail lech, yn y chwe gorchymyn olaf.
 
 

PENNOD 12
AM FODDION GRAS AC ORDINHADAU’R EFENGYL

 
207. Yn erbyn pa elynion mae’n rhaid i bob gwir Gristion ymdrechu?
Y byd, y cnawd, a’r diafol: “Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd (yn unig), ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.”   Eff. 6: 12; Gal. 5:24; Iago 4:7.
 
208. Beth yw ystyr “y byd”?
Popeth sydd yn y byd, mor bell ag y maent yn dieithrio ein calonnau oddi wrth Dduw, ac yn eiu rhwystro yn ei waith: “Canys pob peth a’r sydd yn y byd, megis chwant y cnawd. chwant y llygaid, a balchder y bywyd, nid yw o’r Tad, ond o’r byd y mae.”    1 Ioan 2:16; Iago 4:4.
 
209. Beth yw ystyr “y cnawd”?
Y natur bechadurus sydd, dan y cwymp, yn gweithredu ac yn llywodraethu ym mhawb: “Canys pan oeddym yn y cnawd, gwŷniau pechodau y rhai oedd trwy y ddeddf oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth.”   Rhuf. 7:5.
 
210. Beth yw ystyr “y diafol”?
Ysbryd aflan syrthiedig sydd yn gwrthryfela yn erbyn Duw: “Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr.”   Jwdas 6.
 
211. Sut mae i ni gael goruchafiaeth ar y gelynion hyn?
(1.) Trwy ffydd yng Nghrist, yr hwn a orchfygodd y byd, ysigodd ben y sarff, ac a gondemniodd bechod yn y cnawd: “Cymerwch gysur,” medd Crist, “Myfi a orchfygais y byd. – Canys yr hyn ni allai y ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun, yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd. – A Duw y tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys.”  Ioan 16:33; Rhuf 8:3 a 16:20.
(2.) Trwy gadw’n hunain oddi wrth bob achlysur i bechod: “Os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch; eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy yr Ysbryd, byw fyddwch.”  Rhuf 8:13 a 6:13; 1 Thes 5:22.
(3.) Trwy fyw yn gymhedrol a gwyliadwrus bob dydd: “Yr wyf yn cosbi fy nghorff, ac yn ei ddwyn yn gaeth: rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.”  1 Cor 9:27; Luc 21:34 – 36.
(4.) Trwy ymarfer moddion gras yn ddyfal.
 
212. Pa wahaniaeth sydd rhwng ymdrech gras yn erbyn pechod, a chyhuddiadau cydwybod wedi ei goleuo?
Nid yw cydwybod ond yn condemnio pechod; ond y mae gwir ras yn ei farwhau: “A’r rhai sydd eiddo Crist a groeshoeliasant y cnawd, a’i wŷniau, a’i chwantau.”   Gal. 5:24.
 
213. A ydy pob un o blant Duw yn gorchfygu’r gelynion hyn?
Ydynt: “Yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy yr hwn a’n carodd ni.”   Rhuf. 8:37.
 
214. Beth yw’r ordinhadau a’r moddion gras a osododd Crist i ni eu hymarfer?
(1.) Gwrando gair Duw a chwilio’r ysgrythyrau: “Chwiliwch yr ysgrythyrau; canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt-hwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi. – Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid.”   Ioan 5:39; Esa. 55:3.
(2.) Dyfal weddïo: “Am hynny nesawn yn hyderus at orseddfaingc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol. – Gan weddïo bob amser, â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd.”   Heb. 4:16; Eff. 6:18.
(3.) Arferiad parchus a ffyddiog o’r sacramentau.
 
215. Sut ydym i weddïo?
(1.) Yn yr Ysbryd: “Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiolaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân.”   Judas 20; Eff. 6:18.
(2.) Mewn ffydd: “Eithr gofyned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt.”   Iago 1:6.
(3.) Yn ddyfal: “Eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys drosto ef. – Gweddïwch yn ddi-baid.”   Act. 12: 5; 1 Thes. 5:17; Luc 18:1.
 
216. Yn enw pwy yr ydym i weddïo?
Yn enw Iesu Grist: “Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, pa bethau bynnag a ofynoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi.”   Ioan 16:23 a 14:18.
 
217. A yw’r Ysbryd yn ein cynorthwyo ni i weddïo?
Ydy: “A’r un ffunud y mae yr Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni; canys ni wyddom ni beth a weddïom megis y dylem; eithr y mae yr Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau annhraethadwy.”   Rhuf. 8:26.
 
218. Pa sicrwydd sydd gennym y bydd Duw yn gwrando ar ein gweddïau?
Mae addewid Duw yn sicrhau hynny: “Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.”   Mat. 1:7.
 
219. Am ba bethau y mae i weddïo?
Am bopeth sy’n perthyn i fywyd a duwioldeb ac sydd wedi eu haddo gan Dduw yn ei air: “Haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw; yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.”   Salm 84:11; 2 Pedr 1:3; 1 Ioan 5:14.
 
220. Dros bwy yr ydym i weddïo?
Dros bawb; yn enwedig dros yr holl saint: “Cynghori yr ydwyf am hynny ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch dros bob dyn; dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol, mewn pob duwioldeb ac onestrwydd.”   1 Tim. 2:1, 2; Eff. 6:18.
 
221. Beth yw Gair Duw?
Ysgrythyrau Sanctaidd yr Hen Destament a’r Newydd: “Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder.”   2 Tim. 3:16.
 
222. Beth yw ystyr fod yr holl ysgrythur yn sanctaidd?
(1.) Duw sanctaidd yw awdur yr holl ysgrythur: “Nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth, eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.”   2 Pedr 1:21.
(2.) Mae’r holl ysgrythur yn sanctaidd yn ei natur – mae’r gorchymynion, yr athrawiaethau, a’r addewidion, yn sanctaidd i gyd: “Gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd: barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.”   Salm 19:8, 9.
(3.) Trwy’r gair mae’r Arglwydd yn sancteiddio pechaduriaid aflan: “Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd, dy air sydd wirionedd.”   Ioan 17:17.
223. Pam dylem wrando ar y gair?
(1.) Am mai gair Duw yw; ac nid oes neb all barchu Duw heb barchu ei air: “Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr (fel y mae yn wir) yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu.”   1 Thes. 2:13.
(2.) Am fod “ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw”.   Rhuf. 10:17.
(3.) Am mai gosodiad dwyfol yw pregethiad y gair: “Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.”   Marc 16:15; Mat. 28. 19.
(4.) Am fod y gair yn ein haddysgu yn y pethau sy’n perthyn i’n hiachawdwriaeth: “Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt, fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythyrau, y gallom gael gobaith.”   Rhuf. 15: 4; Ioan 5:36; 2 Tim. 3:15.
 
 

PENNOD 13
AM Y SACRAMENTAU

 
224. Pa sacramentau a ordeiniodd Crist yn ei eglwys?
Y ddau hyn, sef Bedydd a Swper yr Arglwydd.   Mat. 28:19; Luc 22:19, 20.
 
225. Pam ordeiniodd Crist sacramentau yn ei eglwys?
(1.) I fod yn arwyddion o bethau ysbrydol, i’w gwneuthur yn eglurach i’n deall ni: “Ac fe gymerth arwydd yr enwaediad, yn insel cyfiawnder y ffydd.”   Rhuf. 4:11.
(2.) I gadw coffa o’r pethau hyn yn eglwys Crist yn wastadol.   1 Cor. 11:24.
(3.) I sicrhau a chadarnhau ein ffydd, fel seliau o gyfamod Duw.
 
226. Sawl rhan sydd mewn sacrament?
Dwy; sef yr arwydd gweledig oddi allan, a’r gras ysbrydol oddi mewn.
 
227. Beth yw’r arwydd oddi allan, neu’r ffurf, yn y Bedydd?
Dŵr, â’r hwn y bedyddir un “yn enw y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân.”   Mat. 28:19.
 
228. Beth yw’r gras ysbrydol oddi mewn?
Marwolaeth i bechod, a genedigaeth newydd i gyfiawnder: “Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth [pechod]; fel megis ag y cyfododd Crist o feirw, trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd.”   Rhuf. 6:4.
 
 
229. Beth mae ein bedyddio yn enw y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân, yn arwyddocáu?
(1.) Ein dyled i gredu yn, ac addoli Personau’r Drindod yn undod y Duwdod; oherwydd bedyddir ni i bob un ohonynt fel ei gilydd.   Mat. 28:19.
(2.) Ein proffes a’n hymorffwysiad ar drefn a gwaith y Personau Dwyfol yn unig am iachawdwriaeth: “Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyda chwi oll.”   2 Cor. 13:13.
(3.) Ein cyflwyniad mewn ffordd o gyfamod i’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân, i fod yn eiddo Duw byth: “Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.”   Salm 48:14; Jer. 50:5.
 
230. Oes rhaid bedyddio mwy nag unwaith?
Nac oes: “Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.”   Eff. 4:5, 6.
 
231. Pam bedyddir plant bychain?
(1.) Am fod Duw mor fodlon ac ewyllysgar i’w hachub hwy ag eraill sydd mewn oedran: “Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Duw.”   Marc 10:14; Mat. 18:14.
(2.) Yr oeddynt yn yr eglwys o’r cyfnod cynharaf dan bob goruchwyliaeth, ac nid oes un dangosiad yn y Beibl i’w torri hwynt allan dan oruchwyliaeth yr efengyl, sydd helaethach ei breintiau.
(3.) Maent yn wrthrychau addas o ras ac iachawdwriaeth dragwyddol.
 
 

PENNOD 14
AM SWPER YR ARGLWYDD

 
232. Pam ordeiniwyd sacrament Swper yr Arglwydd?
Er mwyn tragwyddol goffa am aberth a dioddefaint Crist, a’r llesád sydd i’w dderbyn yno: “Ac wedi iddo ddiolch, efe a’i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch, hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir drosoch, gwnewch hyn er coffa amdanaf.”   1 Cor. 11:24.
 
233. Beth yw’r arwydd gweledig yn Swper yr Arglwydd?
Bara a gwin: “Yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch, hwn yw fy nghorff.  Ac wedi iddo gymeryd y cwpan a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn; canys hwn yw fy ngwaed o’r Testament Newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.”   Mat. 26:26-28.
 
234. Beth yw’r peth a arwyddoceir?
Corff a gwaed Crist: “Ffiol y fendith yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw?”   1 Cor. 10:16.
 
235. Beth yw’r llesád sydd i’w gael trwy ffydd yn yr ordinhad hon?
Cryfhau a diddanu ein heneidiau trwy gorff a gwaed Crist, megis ag y mae ein cyrff yn cael trwy’r bara a’r gwin: “Canys fy nghnawd i,” medd Crist, “sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir.  Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol.”   Ioan 6:64, 55.
 
236. Beth mae torri’r bara yn arwyddocáu?
Drylliad corff Crist: “Efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni, cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef; a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.”   Esa. 53:5.
 
287. Beth mae tywalltiad y gwin yn arwyddocáu?
Tywalltiad gwaed Crist dros ein pechodau ni, a’r iawn a wnaeth trwy hynny: “Hwn yw fy ngwaed o’r Testament Newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau.”   Mat. 20:28.
 
238. Beth mae rhoi’r elfennau i’r cymunwyr yn arwyddo?
Bod Duw y Tad yn rhoi Crist, a Christ yn rhoi ei hun, i bawb a gredant ynddo: “Yr hwn y mae y Mab ganddo, y mae bywyd ganddo: a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.”   Ioan 5. 12.
 
239. Pam dylem ddod i Swper yr Arglwydd?
(1.) O ufudd-dod i orchymyn Crist, a ddywedodd, “Gwnewch hyn er coffa amdanaf.”   1 Cor. 11:24.
(2.) I addef Crist a’i groes, a dangos ei farwolaeth fel yr unig iawn am bechod, a’n hunig obaith am iachawdwriaeth: “Canys cynnifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo.”   1 Cor. 11:26.
(3.) I ymborthi trwy ffydd ar Grist, a dangos ein cariad tuag ato, a’n diolchgarwch iddo: “Beth a dalaf i’r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi?  Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf.”  Salm 116:12, 13.
(4.) I gymdeithasu â Duw yn aberth ei Fab yn yr ordinhad: “Ein cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef, Iesu Grist.”   1 Ioan 1:3.
 
240. Beth ddylai’r rhai sy’n dod i Swper yr Arglwydd wneud?
Holi eu hunain:
 (1.) A ydynt yn wir edifeiriol am y pechodau a aethant heibio: “Yr awr hon, medd yr Arglwydd, dychwelwch ataf fi â’ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag wylofain, ac a galar.  A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw; oherwydd graslawn a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.”   Joel 2:12, 13; 1 Cor. 11:28; Act. 3:19.
(2.) A ydynt yn sicr amcanu dilyn buchedd newydd: “Megis y rhoddasoch eich  aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd.”   Rhuf. 6:19.
(3). A ydynt yn gweld gwerth yn aberth Crist, a’u hangen hwythau ohono: “I chwi gan hynny y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas.”   1 Pedr 2:7.
(4.) A ydynt yn ymorffwys arno ef yn unig am iachawdwriaeth: “Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid; ohono ef y daw fy iachawdwriaeth.”   Salm 62:1; Phil. 3:8, 9; Act. 16:30, 31.
(5 ) A ydynt yn dod gan gofio’n ddiolchgar am ei angau: “Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, ac a’n gwnaeth ni yn freninoedd, ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo y gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.”   Dat. 1:5, 6; Ioan 15:18; 1 Ioan. 4:19.
(6.) A ydynt yn ceisio cariad gwirioneddol tuag at bob dyn: “Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r rhai a’ch casánt, gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant: fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.”   Mat. 5:23, 24, 43, 44; 1 Pedr 1:22.
 
241. Pa fath yw’r rhai sy’n dod i Swper yr Arglwydd yn annheilwng?
(1.) Y rhai sydd heb lafurio am wybodaeth ysbrydol i iawn farnu corff yr Arglwydd: “Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, heb iawn farnu corff yr Arglwydd.”   1 Cor. 10:29.
(2.) Y rhai sy’n ymorffwys ar y cyflawniad allanol yn unig, heb gymdeithas â Duw a maeth ysbrydol i’w heneidiau trwy’r ordinhad hon: “Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol; eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd sydd yr awr hon, ac o’r hwn a fydd.”   1 Tim. 4:8; Ioan 4:23, 24.
(3.) Y rhai sy’n byw mewn digofaint heb heddychu, ac yn gwneud camwedd heb ei unioni: “Gan hynny, os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; gad yno dy rodd ger bron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd.”   Mat. 5:23, 24.
(4.) Y rhai sy’n parhau’n gyndyn mewn pechodau adnabyddus iddynt, er cymryd arnynt gyfamodi â Duw yn eu herbyn: “Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod.”   Hos. 10:4.
(5.) Pawb sy’n gorffwys ar unrhywbeth heblaw Crist yn unig am iachawdwriaeth: “Chwi a aethoch yn ddifudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf; chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras.”   Gal. 6:4.
 
 

PENNOD 15
AM ATGYFODIAD A DYRCHAFIAD CRIST

 
242. A ddyrchafwyd Crist ar ôl ei ddarostyngiad?
Do: “Yr hwn a ddisgynnodd, yw yr hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai pob peth.”   Eff. 4:10.
 
243. Beth sy’n gynwysedig yn nyrchafiad Crist?
(1.) Ei atgyfodiad: “Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.”   1 Cor. 15:20; Act. 2:24, 32.
(2.) Ei ddyrchafiad i’r nef: “Oherwydd paham, Duw a’i tra-dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw.”   Phil. 2:9; Heb. 2:9; Rhuf. 8:21.
(3.) Ei eisteddiad ar ddeheulaw Duw: “Yr hwn, wedi puro ein pechodau trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch-leoedd.”   Heb. 1:3; Salm 110:1; Eff. 1:21.
(4.) Ei ddyfodiad i farnu y byd: “Oherwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe.”   Act. 17:31; Luc 9:26; Rhuf. 2:16.
 
244. Pam atgyfododd Crist?
(1.) I ddangos bod cyfiawnder wedi ei fodloni ganddo ar ran ei bobl: “Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.”   Rhuf. 4:25; 1 Cor. 15:17.
(2.) I ddangos bod ei holl elynion wedi eu gorchfygu: “O law y bedd yr achubaf hwynt; oddi wrth angau y gwaredaf hwynt; byddaf angau i ti, O angau; byddaf dranc i ti, y bedd; cuddir edifeirwch o’m golwg.”   Hos. 13:14; 1 Cor. 15:25-28.
(3.) I dderbyn ei gyfiawn wobr: “Dangosi i mi lwybr y bywyd; digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.”   Salm 16:11; Esa. 53:11.
 
245. Pryd atgyfododd Grist?
Ar ddydd cyntaf o’r wythnos, a’r trydydd dydd wedi ei farwolaeth: “Mi a draddodais i chwi ar y cyntaf, yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythyrau, a’i gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd.”   1 Cor. 15:3, 4; Mat. 28:1-6.
 
246. Pryd esgynnodd Crist i’r nef?
Ym mhen deugain niwrnod wedi ei atgyfodiad: “Ymddangosodd yn fyw i’w ddisgyblion, wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.”   Act. 1:3.
 
247. Pwy oedd gyda Christ yn ei esgyniad?
Yr oedd miloedd o angylion, gyda llawen floedd: “Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd a sain utgorn.”   Salm 47:5.
 
248. Pam esgynnodd Crist i’r nef?
(1.) I ymddangos gerbron Duw dros ei bobl: “Canys nid i’r cysegr o waith llaw, portread y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni.”   Heb. 9:24.
(2.) I eiriol drostynt: “Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iacháu y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw; gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy.”   Heb. 1:25; Rhuf. 8:34.
(3.) I anfon yr Ysbryd Glân atynt: “Buddiol i chwi fy myned i ymaith canys onid af, ni ddaw y Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch.”   Ioan 16:7.
(4.) I barotoi trigfannau iddynt, “Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau, a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi.  Yr wyf fi yn myned i barotoi lle i chwi.”   Ioan 14:2; Dat. 21:2.
(5.) I dderbyn gogoniant iddo’i hun: “Ac yr awr hon, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, a’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd.”   Ioan 17:5.
 
249. Pa ddyrchafiad gogoneddus sydd i Grist yn y nef?
Mae’n eistedd ar ddeheulaw Duw: “Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-fainc i’th draed.”   Salm 110:1.
 
250. Beth mae eisteddiad Crist ar ddeheulaw Daw yn arwyddocáu?
(1.) Ei fod wedi gorffwys oddi wrth ei lafur: “Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau.”   Heb. 4:10.
(2.) Uchder ei ddyrchafiad: “Wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th draed?”   Heb. 1:13.
(3.) Parhad sefydlog o’i ogoniant: “Eithr hwn wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.”   Heb. 10:12-14 a 6:20.
(4.) Fod ei deyrnas yn ddi-sigl fel efe ei hunan: “Oherwydd paham, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddi-sigl, bydded gennym ras, trwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn.”   Heb. 12:28.
 
251. Pryd bydd Crist yn ymddangos fwyaf gogoneddus?
Pan ddaw i farnu’r byd yn y dydd olaf: “Yna yr eistedd ar orsedd ei ogoniant.”   Mat. 19:28; 2 Thes. 1:10.
 
252. Pa sicrwydd sydd gennym y bydd barn gyffredinol?
Mae gair Duw ei hun yn tystiolaethu hynny: “Gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn.”   Heb. 9:27; Preg. 11:9 a 12:14.
 
 

PENNOD 16
AM YR ATGYFODIADAU

 
253. A atgyfodir cyrff y meirw dydd y farn?
Gwneir.
 
254. Pa sicrwydd sydd gennym o hynny?
(1.) Mae gair Duw yn tystiolaethu hynny: “Mae yr awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef, a hwy a ddeuaut allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.”   Ioan 5:28, 29.
(2.) Mae atgyfodiad Crist ei hun yn sicrhau hynny: “Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith.”   1 Cor. 15:16.
(3.) Am fod cyrff y saint yn ogystal a’u heneidiau yng nghyfamod Duw, wedi eu prynu a’u huno â Christ, ac yn demlau i’r Ysbryd Glân: “Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob?  Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. – Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? – Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân?”   Mat. 22:31, 32; 1 Cor. 15:15, 19; Ioan 14:3.
 
255. Ym mha gyrff y cyfodir y meirw?
Yn y cyrff oedd ganddynt yma yn y byd: “Er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha y corff hwn, eto (medd Job) caf weled Duw yn fy nghnawd.”   Job 19:26, 27; 1 Cor. 15:38.
 
256. Pa ragoriaeth fydd i’r cyfiawn yn y farn ?
(1.) Rhoddir y blaen i’r cyfiawn yn yr atgyfodiad: “Y meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf.”   1 Thes. 4:16.
(2.) Gosodir y cyfiawn ar ddeheulaw Crist, ond yr anghyfiawn ar y llaw chwith: “Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy.”   Mat. 25:33.
(3.) Bydd y saint yn barnu’r byd annuwiol.   1 Cor. 6:2, 3; Dan. 7:22.
 
257. Sut bydd y saint yn barnu’r byd?
(1.) Bydd y gwirioneddau credodd y saint yn barnu’r annuwiolion am eu hanghredu: “Y gair a leferais i, (medd Crist) hwnnw a’u barn yn y dydd diweddaf.”   Ioan 12:47, 48.
(2.) Bydd eu bywydau sanctaidd yn barnu bywydau ansanctaidd annuwiolion: “Gwyr Ninefe a gyfodant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele, un mwy na Jonas yma.  Brenines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genedlaeth hon, ac a’i condermnia hi, am iddi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon; ac wele, un mwy na Solomon yma.”   Mat. 12:41, 42; Luc 11:32.
(3.) Cyfiawnhânt farnau uniawn a chywir yr Arglwydd: “Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner.”   Rhuf. 3:4.
(4). Gorfoleddant a llawenychant oblegid ei farnau ef: “Ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Halelwia, iachawdwriaeth, a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i’r Arglwydd ein Duw ni: oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef.  Ac eilwaith y dywedasant, Halelwia.”   Dat. 19:1, 2 a 15:3, 4.
 
258. Pa fath o gyrff fydd i’r saint yn yr atgyfodiad?
(1). Cyrff disglaer a gogoneddus: “Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ni’n unffurf â’i gorff gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.”   Phil. 3:21.
(2.) Corff cwbl berffaith ac anllygredig: “Efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth.”   1 Cor. 15:42.
(3.) Cyrff cryfion, i gyd-weithredu â’u heneidiau heb flino byth: “Efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth.”   1 Cor. 15:43.
(4.) Cyrff ysbrydol a bywiol: “Efe a heuir yn gorff aniannol, ac a gyfodir yn gorff ysbrydol.”   1 Cor. 15:43.
 
259. A fydd Crist yn addef ei bobl yn y farn?
(1.) Bydd, yn gyhoeddus iawn, fel ei frodyr, ei blant, a’i briod: “Pwy bynnag a’m haddefo i (medd Crist) gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau gerbron angylion Duw. – Minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.”   Luc 12:8; Mat. 10:32.
(2.) Bydd yn eu rhyddhau hwynt yn dragywydd oddi wrth eu holl bechodau a’u holl ddirmyg, ac a sych eu dagrau: “Sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt: a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach.”   Dat. 21:4 a 7:17.
 
260. A fydd dedwyddwch y cyfiawn yn fawr?
Bydd: "Hwy a ânt i fywyd tragwyddol.”   Mat. 25:46; Dat. 14:13.
 
261. Beth fydd dedwyddwch y saint yn y nefoedd yn cynnwys?
(1.) Eu tebygrwydd i’r Arglwydd Iesu yn eu cyrff a’u heneidiau: “Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo; oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae.”   1 Ioan 3:2.
(2.) Yr olwg ddisglaer a gânt yn barhaus ar ogoniant Duw: “Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.”   Mat. 5:8.
(3.) Y llawenydd a’r tangnefedd a gânt byth eu mwynhau: “Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlon; buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.”   Mat. 25:23; Dat. 3:11.
(4.) Yn yr hyfrydwch diddarfod a gânt yn gwasanaethu a moliannu Duw a’r Oen: “A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a’r Oen a fydd ynddi hi; a’i weision ef a’i gwasanaethant ef.  A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a’i enw ef fydd yn eu talcennau hwynt; ac ni bydd nos yno; ac nid rhaid iddynt wrth ganwyll, na goleuni haul: oblegid mae yr Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd.”   Dat. 22:3, 4, 5.
 
262. Pa fath o gyrff fydd gyda’r annuwiolion yn y farn?
Bydd eu cyrff, fel eu heneidiau, yn aflan, yn warthus, a dirmygedig: “A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear, a ddeffroant: rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.”   Dan. 12:2.
 
263. Beth fydd trueni’r annuwiolion yn cynnwys?
(1.) Bydd cywilydd gan y Barnwr hwynt, ac fe’u diarddel yn y farn: “Canys pwy bynnag a fydd cywilydd ganddo fi a’m geiriau yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon, bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl yn ngogoniant ei Dad, gyda’r angylion sanctaidd.”   Marc 8:33; Mat. 10:33; Luc 12:8.
(2.) Ni bydd iddynt gysur byth yn y radd leiaf: “Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awr hon: canys chwi a alerwch ac a wylwch.”   Luc 6:25.
(3.) Bydd euogrwydd a digofaint Daw yn eu cydwybodau, fel pryf heb farw byth, a thân heb ddiffodd.   Marc 9:44, 46, 48.
(4.) Yn y felltith a ddioddefant, a’r poenydwyr didrugaredd fydd yn eu poenydio byth: “Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth ddinystr tragwyddol oddi ger bron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef.”   2 Thes. 1:9.
(5.) Yn eu hollol anobaith o ymwared, na’r esmwythdra lleiaf byth: “A mŵg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd; ac nid ydynt yn cael gorffwysdra ddydd na nos.”   Dat. 14:11; Esa. 57:21.
 
264. Beth ddylai ystyriaeth o’r pethau hyn ein dysgu ni?
 (1.) I weld y drwg mawr sydd mewn pechod yn haeddu y fath gosbedigaeth ofnadwy: “Oni wna barnydd yr holl ddaear farn? – A ŵyra Duw farn, neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder? – Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater.”   Gen. 18:25; Job 8:3; Galar. 3:36.
(2.) I gydnabod rhyfeddol drugaredd Duw yn trefnu noddfa (sef Crist) i ffoi iddi rhag y llid a fydd: “Trowch i’r amddifiynfa, chwi garcharorion gobeithiol.”   Sech. 9:12.
(3.) I wneud achos ein heneidiau mater mwyaf ein gofal tra byddom yn y byd: “Canys pa lesád i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?”   Mat. 16:26; Salm 49:8.
(4.) I lafurio yn ddyfal am iachawdwriaeth pechaduriaid: “A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen: a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd.”   Dan. 12:3.
 
 

PENNOD 17
AM DDYDD Y FARN

 
265. Pryd bydd dydd barn?
Yn niwedd y byd hwn: “Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a’u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn, Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnant anwiredd: ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.”   Mat. 13:40-42.
 
266. Pam ordeiniodd Duw farn gyffredinol?
(1.) Fel yr ymddangoso Crist, yr hwn a ddirmygwyd yn y byd, yn ogoneddus yng ngŵydd pawb: “Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad, gyda’i angylion, ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.”   Mat. 16:27 a 24:30.
(2.) “Efe a ddaw i’w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, yn y dydd hwnw.”   2 Thes. 1:10.
(3.) I amlygu uniondeb rhagluniaeth Duw i bawb: “Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb: a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd.  Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a’r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno.”   Preg. 8:16, 17; Rhuf. 2:6; 2 Cor. 5:10.
(4.) I ddangos uniondeb ei farn: Eithr ti (O ddyn) yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw.”   Rhuf. 2:5.
 
267. Ym mha ddull y daw Crist i farn?
(1.) Mewn dull mawreddig iawn: “Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a’r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a’r nef.”   Dat. 20:11 a 1:7.
(2.) Mewn dull gogoneddus iawn: “Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist.”   Tit. 2:13.
(3.) Daw yn ddisymwth: “Canys pan ddywedant tangnefedd a diogelwch, yna y mae dinystr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddiangant hwy ddim.”   1 Thes. 5:3; Mat. 24:44.
 
268. Pwy ddaw gyda Christ i’r farn?
(1.) Ei holl saint: “A daw yr Arglwydd fy Nuw, a’r holl saint gydag ef.”   Sech. 14:5.
(2.) Yr angylion: “Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o’r nef, gyda’i angylion nerthol, a thân fflamllyd, gan roddi dial i’r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist.”   2 Thes 1:7, 8.
 
269. Pam gosodwyd Crist i fod yn farnwr?
Am ei fod yn perthyn i’w swydd gyfryngol i farnu yn ogystal â phrynu ei bobl: “Y Tad nid yw yn barnu neb: eithr efe a roddes bob barn i’r Mab. – Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn.”   Ioan 5:22, 27; Act. 17:31.
 
270. Pwy fydd yn cael eu barnu?
(1.) Yr angylion syrthiedig: “Yr angylion hefyd y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr.”   Jwdas 6.
(2.) Holl blant dynion: “Canys rhaid i ni oll ymddangos ger bron brawdle Crist; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg.”   2 Cor. 5:10.
 
271. Wrth ba nodau bydd Crist yn gwahaniaethu rhwng y cyfiawn a’r anghyfiawn yn y farn?
(1.) Bydd y duwiolion yn adnabyddus wrth eu ffydd a’u ffrwythau: “Canys (medd Crist wrthynt) bûm newynog, a chwi a roisoch i mi fwyd; bu amaf syched, a rhoisoch i mi ddiod; bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi; noeth, a dilladasoch fi; bûm glaf, ac ymwelsoch â mi; bûm yng ngharchar, a daethoch ataf.”   Mat. 25:35, 36.
(2.) Bydd yr annuwiolion, y gorau ohonynt, yn amlwg wrth eu diffyg o ffydd a’u ffrwythau iachusol; dywed Crist wrthynt, “Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i’r tân tragwyddol, yr hwn a barotowyd i ddiafol ac i’w angylion; canys bûm newynog, ac ni roisoch i mi fwyd; bu arnaf syched, ac ni roisoch i mi ddiod; bûm ddieithr, ac ni’m dygasoch gyda chwi; yn noeth, ac ni’m dilladasoch; yn glaf, ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi.”   Mat. 25:41-43.
 
 

Y DEG GORCHYMYN

 
Sawl gorchymyn sydd yn y gyfraith?
Deg.
 
Pa rai ydynt?
Y rhai hynny a lefarodd Duw yn yr Ugeinfed Bennod o Exodus, gan ddywedyd, “Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.”
 
Adroddwch y Deg Gorchymyn?
I.  Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
II.  Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear.  Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casánt; ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
III. Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer; canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.
IV. Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef.  Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith.  Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr-ddyn a fyddo o fewn dy byrth.  Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hyny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.
V.  Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estyner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
VI.  Na ladd.
VII.  Na wna odineb.
VIII.  Na ladrata.
IX.  Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
X.  Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaeth-ferch, na’’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog.
 
Beth ydych yn ei ddysgu’n bennaf oddi wrth y gorchmynion hyn?
Yr ydym yn dysgu dau beth; sef, ein dyled tuag at Dduw, a’n dyled tuag at ein cymydog.
 
Beth yw eich dyled tuag at Dduw?
Fy nyled tuag at Dduw yw, credu ynddo, ei ofni, a’i garu â’m holl galon, â’m holl feddwl, â’m holl enaid, ac â’m holl nerth; ei addoli ef, diolch iddo, rhoddi fy holl ymddiried ynddo, galw arno, anrhydeddu ei enw sanctaidd ef, a’i air, a’i wasanaethu yn gywir holl ddyddiau fy mywyd.
 
Beth yw eich dyled tuag at eich cymydog?
Fy nyled tu ag at fy nghymydog yw, ei garu fel fi fy hun, a gwneud i bob dyn megis y chwenychwn iddo wneuthur i minnau.  Caru ohonof, anrhydeddu, a chymorth fy nhad a’m mam.  Anrhydeddu ac ufuddhau i’r Brenin a’i swyddogion.

Ymddarostwng i’m holl lywiawdwyr, dysgawdwyr, bugeiliaid ysbrydol ac athrawon. Ymddwyn ohonof yn ostyngedig, gan barchu pawb o’m gwell. Na wnelwyf niwed i neb ar air na gweithred.  Bod yn gywir ac yn uniawn ym mhob peth a wnelwyf.  Na bo na chas na dygasedd yn fy nghalon i neb.  Cadw ohonof fy nwylaw rhag chwilenna a lladrata, a’m tafod rhag dywedyd celwydd, cabl eiriau, na drwg absen.  Cadw fy nghorff mewn cymedroldeb, sobrwydd, a diweirdeb.  Na chybyddwyf, ac na ddeisyfwyf dda na golud neb arall; eithr dysgu a llafurio yn gywir i geisio ennill fy mywyd, ac i wneuthur a ddylwyf ym mha ryw fuchedd bynnag y rhyngo bodd Dduw fy ngalw.
 
[1] Heblaw y Deg Gorchymyn – a elwir y Gyfraith Foesol, am eu bod yn rheol o foesau da, ac yn gosod allan y rhwymedigaeth sydd ar bob dyn i ymddwyn yn gyfiawn ac yn ddifeius tuag at Dduw a dynion ym mhopeth sydd o dragwyddol barhâd – rhoddodd Duw hefyd i’r Iddewon trwy Moses Gyfraith Farnedigaethol yn rheol wladol, ac o’r famedigaeth a roddid ar bob achos rhwng y bobl a’i gilydd; a’r Gyfraith Seremonïol, yn rheol o’r aberthau a’r pethau cysgodol ag oedd yn perthyn i wasanaeth y deml a.y.y.b.  Yr oedd y cyfreithiau hyn yn weithredol i’r Iddewon yn unig, ond y maent yn athrawiaethol ac yn addysgiadol i ninnau i’w chwilio’n ddyfal, a’u hystyried, gan bawb hyd ddiwedd y byd.